Rydyn ni'n recri wtio Gweithiwr Cymorth Gofal Plant yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Oriau gwaith: 37
Math o gontract: Cyfnod Penodol, Llawn Amser
Lleoliad: Swyddfa
Tîm: Tîm 16 oed a hŷn/gadael gofal
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £28,598- £31,022 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae gan y swydd gweithiwr cymorth hon, yn y tîn, rôl benodol o ran cynorthwyo pobl ifanc mewn gofal sy'n Blant ar eu Pen eu Hunain sy'n Ceisio Lloches. Bydd gofyn i chi gynorthwyo pob plentyn 16 oed a hŷn sy'n ceisio lloches ac yn derbyn gofal i bontio'n llwyddiannus i fyd oedolion. Yn ogystal, bydd y cymorth yn cynnwys pobl ifanc 18 oed a hŷn gadael gofal wrth iddyn nhw bontio i fyd oedolion a pharatoi pobl ifanc gyda chanlyniadau eu statws mewnfudo. Yn y rôl hon, bydd gofyn i chi ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel mewn perthynas â phob agwedd ar y broses asesu a rheoli gofal sy'n diwallu anghenion plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal neu gyfwerth ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd.
- Dealltwriaeth o ymddygiad plant a phobl ifanc, a'r angen am gymorth ac ymyrraeth mewn rhai amgylchiadau.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau.
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Karen Williams ar 07971781534 neu ebost: willik19@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.