Oriau gwaith: 37 Oriau (7.24 Dydd Llun - Dydd Gwener)
Math o gontract: Llawn Amser/ Cyfnod Penodol am 24 Mis
Lleoliad: Ty Tredomen
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Gwasanaethau Plant, Tîm Teulu a Ffrindiau ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £27,711 - £30,060 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae’r rôl Gweithiwr Cymorth Gofal Plant yn cynnwys gweithio gyda phlant a'u rhieni/gofalwyr i gwrdd â'u canlyniadau, cydbwyso canlyniadau â risg a diogelu plant yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014.
Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cynorthwyo Gweithwyr Cymdeithasol yn eu gwaith, gwneud gwaith uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc i'w helpu nhw i ddeall taith eu bywyd, cynnal asesiadau a goruchwylio amser i’r teulu rhwng plant sy'n derbyn gofal a'u rhieni biolegol.
Byddai angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod â sgiliau rheoli amser a threfnu da a bod â’r gwerthoedd, y cymhelliant a'r ymrwymiad cywir i weithio mewn amgylchedd heriol, ond gwerth chweil.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal neu gyfwerth ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru.
- Dealltwriaeth o ymddygiad plant a phobl ifanc, a’r angen am gymorth ac ymyrraeth mewn rhai amgylchiadau.
- Sgiliau bysellfwrdd ardderchog a dealltwriaeth o'r angen am atebolrwydd wrth gadw cofnodion achos cywir ac amserol.
- Profiad o weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Rachel Silver/Sam Thomas ar 07789371545/ 01443 863247 neu ebost:
silver@caerphilly.gov.uk thomas24@caerphilly.gov.uk Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.