Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Rhyd Y Creuau - Betws Y Coed
munwch â ni fel Gweithiwr Cefnogi Cyflogaeth a Gwneud Gwahaniaeth Bob Dydd.
Ydych chi'n angerddol dros gefnogi unigolion sydd ag anableddau dysgu a chorfforol i gyrraedd eu potensial llawn? Ydych chi'n ffynnu mewn amgylchedd creadigol, cefnogol a deinamig? Os felly, byddem yn falch iawn o glywed gennych chi!
Rydym yn edrych am Weithiwr Cefnogi Cyflogaeth gwydn a llawn cymhelliant i ymuno â'n Gwasanaeth Cefnogi Mentora Cyflogaeth Anabledd. Mae hon yn swydd sy'n rhoi boddhad ble fyddwch yn helpu unigolion i ddatblygu'r sgiliau maent eu hangen i symud yn agosach at gyflogaeth wirfoddol neu am dâl.
Am beth rydym ni'n chwilio: Byddwch yn gweithio mewn ffordd gadarnhaol a hyblyg gyda'r creadigrwydd i gefnogi unigolion i gyflawni eu nodau. Byddwch yn deall y gall ymddygiad fod yn ffurf o gyfathrebu ac ymateb gydag empathi ac yn bwyllog. Mae gwytnwch yn allweddol - byddwch yn parhau i fod yn gefnogol trwy gyfnodau heriol a chyfnodau sy'n rhoi boddhad yn y swydd.
Yr hyn a gynigiwn: • Rhaglen gynefino lawn a mynediad at hyfforddiant arbenigol, gan gynnwys BASE (Cymdeithas Cyflogaeth â Chymorth Prydain). • Cyfleoedd i ddatblygu'n broffesiynol a chael gwir effaith ar fywydau pobl. • Amgylchedd tîm cefnogol ble mae eich syniadau a'ch menter yn cael eu gwerthfawrogi.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y swydd hon. Os ydych chi'n chwilio am yrfa werth chweil sy'n dod â boddhad ac eisiau gwybod mwy, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Craig Bond, Rheolwr Tîm
( Craig.bond@conwy.gov.uk / 01492 575063 )
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr