Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Canolfan Riviere
Mae Tîm Anabledd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a phrofiadol i ymuno â'r tîm gwasanaethau dydd.
Bydd angen i'r gweithiwr newydd fod yn ymwybodol o'r materion sy'n effeithio ar ddefnyddwyr gwasanaeth yn y lleoliad gwasanaeth dydd, e.e. hawliau a chyfrifoldebau, dewis, cyfrinachedd.
Rydym yn chwilio am rywun a all gynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth i weithio tuag at gyflawniadau annibynnol a chyrhaeddiad parhaus o sgiliau a nodau, gan gynnwys sgiliau byw bob dydd.
Mae dyletswyddau eraill yn cynnwys cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth nad ydynt yn gallu bod yn gwbl gyfrifol am eu hanghenion personol eu hunain, gan gynnwys - amser bwyd ac amser paned.
Bydd y person llwyddiannus yn gweithio gyda staff eraill i asesu ac i baratoi rhaglenni i ddiwallu anghenion unigolion a chofnodi a throsglwyddo gwybodaeth i'r bobl berthnasol.
Mae parodrwydd i weithio ar eich menter eich hun, cymryd cyfrifoldeb a rheoli unrhyw heriau mewn modd priodol yn hanfodol.
Mae'r swydd hon yn un Saesneg hanfodol a Chymraeg hanfodol felly bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod yn bodloni'r meini prawf hyn.
"Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio."
Bydd penodiad i'r swydd hon yn amodol ar 2 eirda boddhaol a gwiriadau GDG
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Rebecca Humphreys, Rheolwr Tîm ( Rebecca.humphreys@conwy.gov.uk / 01492 576653)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr