Mae angen staff arnom i fynd â'r plant i gyfarfod â'u rhieni neu eu teulu. Caiff y cyswllt ei oruchwylio er mwyn sicrhau bod y plant yn ddiogel a'i fod yn brofiad cadarnhaol iddyn nhw. Byddem yn darparu hyfforddiant ac mae angen dau aelod o staff ar lawer o gysylltiadau teuluol yn bennaf am resymau logistaidd felly ni fyddech chi'n gweithio ar eich pen eich hun nes eich bod chi'n teimlo'n hyderus yn y rôl.
Cyswllt teuluol nodweddiadol fyddai casglu'r plentyn/plant o'r ysgol, mynychu gweithgaredd gyda rhieni ac yna mynd â nhw adref. Cedwir cofnod byr o'r cyswllt teuluol ond unwaith eto byddai hyfforddiant yn cael ei roi a chyda phob cyswllt teuluol cwblheir asesiad risg fel bod staff yn ymwybodol o unrhyw risgiau ac yn teimlo'n hyderus yn eu rheoli.
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Os oes gennych ddiddordeb ac yn teimlo yr hoffech chi gael oriau ychwanegol, yna cysylltwch â
Megan Jenkins Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau. Rydym wedi ymrwymoi ddiogelu ac amddiffynplant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiadhwn,maerhairolauofewnein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelua Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Cynnal - Gwasanaethau Arbenigol
Rydym yn darparu ystod o wasanaethau cymorth arbenigol gydol oes i bobl Ceredigion. Ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt er mwyn iddynt allu byw bywydau diogel, iach a gwydn. Ein prif swyddogaethau yw:
Penmorfa Penmorfa yw ein swyddfa fwyaf canolog, dyma lle mae ein Prif Weithredwr a'n Cynghorwyr wedi'i leoli.
Darllen mwy Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy