Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gofal Cartref
Rôl
Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd
G07 £29.269 -£30.825
37 awr yr wythnos
Hysbyseb Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd (Cefnogaeth Gofal Cymdeithasol ac Atal)
Mae'r Adran Gofal Cymdeithasol i Blant yn dymuno penodi unigolyn proffesiynol, ymroddgar a gofalgar yn ei gwasanaeth atal i deuluoedd yn Wrecsam. Bydd y Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd yn ymgymryd â holl agweddau gwasanaethau cefnogi plant, pobol ifanc ac teuluoedd ar draws y timau gofal plant. Bydd y swydd yn cynnwys gweithio'n uniongyrchol â theuluoedd i hybu rhianta cadarnhaol, annibyniaeth, perthnasau iach ac i ddiogelu plant.
Bydd gennych gymwysterau perthnasol, un ai QCF neu NVQ3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gofal Plant) neu gymwysterau Gofal Plant perthnasol eraill neu'r gallu ymroddiad i ennill y QCF Lefel 3 o fewn terfyn amser penodol.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Margaret Clark - Rheolwr Tîm y Gwasanaeth Cefnogi ar 01978 295436 or Lisa Valentine 07467108494
I gael ffurflenni cais a manylion eraill, ffoniwch linell swyddi 24 awr yr Adain Adnoddau Dynol ar 01978 292992 neu anfonwch e-bost at HRServiceCentre@wrexham.gov.uk
Rhaid dychwelyd ffurflenni cais wedi'u cwblhau erbyn 03/08/2025.
Rydym yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr cymwys priodol gydag anableddau ac rydym wedi ymrwymo i Gyfle. Cyfartal.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.