Disgrifiad Swydd Rydyn ni'n bwriadu penodi Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd Dros Dro sy'n llawn cymhelliant a brwdfrydedd i weithio'n rhan o'r Garfan Teuluoedd a Mwy. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio i Garfan Teuluoedd a Mwy yn Nwyrain a Gorllewin Rhondda Cynon Taf. Bydd y Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd yn cynorthwyo pob carfan sy'n rhan o'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth.
Diben y swydd yw darparu gwasanaeth hyblyg i deuluoedd sy'n manteisio ar gymorth y Garfan Teuluoedd a Mwy a Charfanau eraill y Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth yn rhan o becyn cymorth wedi'i deilwra. Ymgymryd â thasgau ymarferol a domestig mewn partneriaeth â rhieni fel rhan o'r cynllun teulu fel y nodwyd drwy broses asesu'r Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth. Gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill i gefnogi teuluoedd i gael mynediad at wasanaethau a chyfrannu at adolygiad yr ymyriadau yma. Bydd gofyn i chi weithio sifftiau gyda’r nos, ben bore a rhai penwythnosau yn ôl yr angen.
Rhaid ichi feddu ar gymhwyster Plant a Phobl Ifainc Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (QCF)) neu'r rhagflaenydd, NVQ Lefel 3 mewn Gofal Plant a Phobl Ifainc neu'r gallu i ennill QCF ymhen dwy flynedd o gael aseswr.
Mae swydd y Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd Dros Dro wedi'i hariannu tan 31.03.2026.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Lisa Lewis neu Samantha Greedy ar (01443) 281435.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe’ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr