Yma yn Cartrefi Cymru, rydym yn gwmni Cydweithredol, sy'n golygu rhoi pobl wrth wraidd ein penderfyniadau a’n cefnogaeth. Mae ein cydweithwyr, y bobl rydym yn eu cefnogi ac aelodau o'n cymuned yn cyfrannu at sut rydym yn adeiladu cymuned fel un o ddarparwyr cymorth mwyaf Cymru. Gyda chyfle newydd i ymuno â ni fel Gweithiwr Cymorth gallwch chware rhan yn hyn. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi rhai sydd ag anableddau dysgu er mwyn cyflawni a chyfoethogi bywyd yn y gymuned. Rydym eisiau gweithio gyda’r bobl gorau gyda’r sgiliau gorau ac sy’n arddangos ein gwerthoedd ac sy’n ymrwymedig i wneud bob dydd yn arbennig. Lleoliad: Groeslon, ger Caernarfon, Gwynedd
Oriau: Rhan amser 2 x 20 awr ar gael Cyflog: £12.74 yr awr a’n sifftau cysgu i mewn ar £60 y noson a thelir costau teithio o 45c y filltir. Cytundeb: Parhaol Cyfweliadau: Rydym yn awyddus i gynnal cyfweliadau cyn gynted â phosib felly byddem yn eich annog i ymgeisio ar y cyfle cyntaf posib
Beth fyddwch chi’n ei wneud: Yn y rôl hon, byddwch yn cefnogi unigolion i wneud eu dewisiadau eu hunain - p’un a yw hynny’n benderfyniadau o ddydd i ddydd megis beth i’w wisgo, bwyta, neu wneud, neu rywbeth mwy megis ble i fyw, sut i reoli eu materion ariannol, neu ble i fynd ar wyliau. Fel Gweithiwr Cymorth llawn ymddiriedaeth, byddwch yn galluogi pobl i roi’r penderfyniadau yma ar waith, gan gynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau wedi’u strwythuro sy’n codi hyder ac sy’n datblygu sgiliau newydd. Byddwch hefyd yn cynnig cymorth ymarferol er mwyn eu helpu i gyflawni cyfrifoldebau megis talu biliau, cynnal eu cartrefi, bod yn gymdogion da, a chadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau. Eich nod fydd gwneud bob diwrnod yn arbennig drwy wella lles a chanolbwyntio ar yr adegau bach ystyrlon sy’n dod â llawenydd a phwrpas. Drwy gynnig y math hwn o gefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn bob diwrnod, mae hon wirioneddol yn rôl werth chweil i’r person cywir.
Am bwy rydym yn chwilio: Nid oes unrhyw brofiad yn ofynnol, oherwydd darperir hyfforddiant llawn. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych os: ydych yn amyneddgar ac yn empathig ydych yn gallu cefnogi person gyda'u gofal personol gydag urddas a pharch oes gennych sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm cryf ydych yn gallu siarad ar ran eraill yn ogystal ag i amrywiaeth o bobl broffesiynol oes gennych sgiliau ysgrifenedig da a'r gallu i gofnodi digwyddiadau yn ystyrlon a chydag empathi oes gennych drwydded yrru lawn gan ei fod yn hanfodol ar gyfer cludo unigolion i apwyntiadau a gweithgareddau. ydych yn siarad Cymraeg yn rhugl fel eich bod yn gallu cyfathrebu’n effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth Cymraeg a bodloni eu hanghenion diwylliannol ac ieithyddol. Nid dim ond beth rydych chi’n ei wneud ond sut rydych chi’n ei wneud sy’n cyfrif - rydym yn chwilio am rywun sy’n credu yn ein gwerthoedd bob dydd ac yn gallu eu harddangos.
Ein Gwobrwyon
• Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu gwych er mwyn cyflawni cymwysterau • 25 diwrnod o wyliau blynyddol yn codi i 30 diwrnod wedi 5 mlynedd o wasanaeth gyda’r opsiwn i brynu a gwerthu gwyliau • Cronfa Lesiannol, adnodd lles ariannol cyfrinachol sydd ar gael i'n cydweithwyr • Gwobrwyon gwasanaeth hirdymor • Mynediad at lwyfan siopa ar-lein sy’n cynnig gostyngiadau a buddion • Mynediad 24 awr at ein Rhaglen Cymorth Gweithwyr • Cymhwysedd ar gyfer cerdyn gostyngiadau Golau Glas • A llawer mwy…..
Ein Cenhadaeth Er mwyn adeiladu dyfodol gwell drwy ganolbwyntio ar bobl gydag anableddau dysgu a’u teuluoedd. Rydym yn ymdrechu i fod yn ddarparwr cymorth gwych ar gyfer yr unigolion a’r teuluoedd rydym yn eu cefnogi, ein gweithwyr, ein partneriaid a’n harianwyr a’r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt.
Ein Gwerthoedd
Rydym wedi gwneud addewid i’r bobl rydym yn eu cefnogi, gan nodi ein hymrwymiad iddynt a sut y gallant ddisgwyl i gael eu cefnogi, ac mae ein gwerthoedd yn cynnwys: Gonestrwydd Ymddiriedaeth Caredigrwydd Parch Llesiant Nodwch os gwelwch yn dda ein bod yn cadw’r hawl i gau’r hysbyseb hwn yn gynnar felly byddem yn eich annog chi i ymgeisio’n gynnar ar gyfer y swydd hon.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr