Oriau gwaith: 37 Oriau
Math o gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol Tan 30 th Ebrill 2026
Lleoliad: Ty Fesen,Swyddfa
Tîm: Tai y Sector Preifat
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £27,711 - £30,060 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae cyfle cyffrous wedi codi am gyfnod penodol i ymuno â'n Tîm Llety Brys fel gweithiwr cymorth, gan weithio o fewn un o'n prosiectau teuluol.
Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo'r Rheolwr Llety Brys i leoli pobl ddigartref sydd wedi'u hatgyfeirio gan y Tîm Cyngor Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol am lety interim a/neu dros dro ac yn cynorthwyo gyda throsglwyddo brys wedi'i atgyfeirio gan swyddfeydd tai'r ardal yn ystod oriau swyddfa arferol a'r tu allan iddyn nhw.
Os oes gennych chi brofiad perthnasol, angerdd ac ymroddiad ac yr hoffech chi ymuno â'r tîm mewn rôl hynod werth chweil, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - 5 TGAU Gradd A*-C neu gyfwerth, neu gymhwyster Lefel 2 ar y Fframwaith Credydau a Chymwysterau.
- Dealltwriaeth o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a'r ddeddfwriaeth mewn perthynas â digartrefedd.
- Profiad o roi cymorth i grwpiau amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys oedolion sy’n agored i niwed a phlant mewn lleoliad llety.
Ymagwedd hyblyg tuag at oriau gwaith, gan gynnwys gweithio ar system rota a fydd yn cynnwys gweithio ar y penwythnos ac ar wyliau banc.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Lee Chapman ar 02920853901 neu ebost:
CLAPHL@CAERPHILLY.GOV.UKGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.