Gweithiwr Cymorth - Tenantiaethau â Chymorth Swydd-ddisgrifiad Am y rôl: 1. Mae'r swydd hon yn gontract dim oriau Gweithiwr Cymorth Wrth Gefn, mae angen cyflenwi ar gyfer sifftiau'r bore, prynhawn a chysgu dros nos yn ôl yr angen ar gyfer absenoldebau staff yn rheolaidd, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc. Byddwch yn cefnogi Oedolion sydd ag Anableddau Dysgu i reoli eu cartref eu hunain o ran y prif gyfrifoldebau a nodir yn y Swydd ddisgrifiad.
Amdanoch chi: • Rydym yn chwilio am rywun sydd ag agwedd gadarnhaol ac angerdd dros weithio gyda phobl sydd ag anabledd dysgu. • Yn gallu darparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gan canolbwyntio'n gryf ar ganlyniadau cadarnhaol a chynnydd yn lles pobl. • Meddu ar agwedd egnïol a chyfeillgar gyda rhagolwg cadarnhaol ac awydd i gwrdd â'r holl heriau ac agweddau gofynnol y rôl. • Gallu meddwl y tu allan i'r bocs a dod o hyd i ddatrysiadau creadigol. • Croesawu a chyflwyno'r gwerthoedd corfforaethol bob amser ym mhopeth a wnawn sef: Proffesiynol, Cadarnhaol, Blaengar, Agored, Cydweithiol, • Meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth am sut i drin pobl ag anableddau dysgu fel unigolion sy'n cael eu gwerthfawrogi ac sydd â gwerth ac urddas, gyda hawliau cyfartal i le llawn mewn cymdeithas ac annog eraill i wneud hynny. Eich dyletswyddau: • Cefnogi pobl ag anableddau dysgu i ddatblygu eu sgiliau a'u hannibyniaeth trwy weithgareddau arddangos a modelu. • Gweithio ochr yn ochr â thîm staff ymroddedig a gweithwyr proffesiynol eraill yng nghartref y defnyddwyr gwasanaeth eu hunain a lleoliadau gofynnol eraill. • Ymgymryd â thasgau ymarferol a chefnogi pobl gyda'u gofal personol, gweithgareddau domestig ac yn gymdeithasol yn y gymuned. • Cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i feithrin a chynnal cysylltiadau teuluol a chyfeillgarwch a chyrraedd nodau a chyflawni canlyniadau personol. • Cymryd rhan ymarferol mewn sesiynau goruchwylio ac arfarniad rheolaidd y staff. • Cyfrannu at asesiadau ysgrifenedig a Chynlluniau Gofal a mynychu cyfarfodydd Cynllunio Gofal gan gasglu a chadw cofnodion ac adroddiadau manwl. • Cymryd rhan/mynychu hyfforddiant gofynnol i ddatblygu, tyfu ac ennill sgiliau i wella'r rôl. Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â Helen Kelleher Arweinydd Tîm - Tenantiaethau â Chymorth Cyngor Sir Powys / Powys County Council Ffôn/Tel: 01686-627021-Symudol-07748180629 E-bost/E-mail: helen.kelleher@powys.gov.uk
Mae'r swydd hon yn gofyn am Wiriad DBS Manylach
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr