Rhaid eich bod yn yrrwr a'ch bod yn barod i yrru cerbydau trafnidiaeth gymdeithasol .
Darperir hyfforddiant a chewch eich goruchwylio'n gyson . Bydd angen i chi fod yn hyblyg gan y bydd angen gweithio gyda'r hwyr a thros benwythnosau ar adegau.
Ein cynnig i chi Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein pobl a byddwn nid yn unig yn darparu cymorth i'ch galluogi i gymryd perchnogaeth o feysydd cyfrifoldeb allweddol y rôl hon yn gyflym ac yn hyderus ond yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi eich datblygiad er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â'ch gyrfa gyda ni.
Yn gyfnewid am eich sgiliau a'ch ymrwymiad byddwn yn cynnig ystod o fuddion i chi, gan gynnwys gweithio hyblyg, lwfans gwyliau blynyddol cystadleuol, cynllun pensiwn gyda chyfraniad cyflogwr o 14.6%, buddion teulu, arbedion ffordd o fyw a phecynnau iechyd a lles.
Gellir cael mwy o wybodaeth am ein hystod eang o fuddion gweithwyr
yma .
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person Cysylltwch â ni Am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Lis Jones:
Lis.Jones@ceredigion.gov.uk Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy