Oriau gwaith: 37 Oriau (7.24 Dydd Llun - Dydd Gwener)
Math o gontract: Llawn Amser/ Cyfnod Penodol Tan 31-03-2025 gyda'r potensial i ymestyn yn amodol ar gyllid Dechrau'n Deg parhaus
Lleoliad: Lleoliadau Amrywiol yn y Fwrdeistref
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Blynyddoedd Cynnar ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £25,584 - £27,269 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili yn recriwtio gweithwyr y Blynyddoedd Cynnar a allai fod eisiau ennill profiad o weithio mewn amgylchedd cymorth i deuluoedd.
Bydd deiliad y swydd yn cael ei hyfforddi i ddarparu ein hymyriadau cymorth i deuluoedd yn y gymuned ac yn rhithwir. Mae'r cymorth yn canolbwyntio ar ddatblygiad plant a sgiliau iaith cynnar. Mae cymorth ar gael i deuluoedd o'r cyfnod cynenedigol ac yn canolbwyntio ar Beth sy'n Bwysig i'r teulu. Mae pob ymyrraeth ar gyfer plant 0 i 7 oed gyda’r nod o helpu rhieni, helpu datblygiad eu plentyn a chynorthwyo gyda gwydnwch y teulu.
Er bod y swyddi wedi'u lleoli naill ai yn y Ganolfan Integredig i Blant Parc y Felin, Canolfan Gymunedol Gelligaer neu Cherry Tree House, bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio'n ystwyth ledled y Fwrdeistref Sirol mewn cartrefi a lleoliadau cymunedol, yn ogystal â rhywfaint o weithio gartref. Mae'r swyddi hyn yn rhan o Dîm y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant ehangach ac mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Cymhwyster Lefel 2 perthnasol ar Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru. Er enghraifft, Gofal, Chwarae, Dysgu, a Datblygiad Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
- Gwybodaeth am strategaethau cymorth i deuluoedd.
- Profiad o weithio yn y gymuned yn cynorthwyo'r gwaith o gyflwyno grwpiau/darpariaeth gymunedol.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd/ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Ceri-Anne Lovell ar 07850319121 neu ebost:
lovelc@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.