Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 1618
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran:
Gwasanaeth Cyswllt dan Oruchwyliaeth
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Amser Llawn
Lleoliad:
Llanelli, Sir Gaerfyrddin
Gradd:
Gradd E
Cyflog:
£25,584 - £28,624
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£13.26 - £14.84
Oriau Contract:
37
Dewch i ymuno â'n tîm Gweledigaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn Sir Gaerfyrddin yw
cadw plant yn ddiogel a chadw teuluoedd gyda'i gilydd ac rydyn ni'n buddsoddi yn ein gwasanaethau er mwyn gwireddu hyn.
Os na all plant fyw gyda'u teuluoedd, mae treulio amser gwerthfawr gyda'i gilydd yn bwysig i gynnal a chryfhau perthnasoedd. Mae ein tîm yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau bod plant yn gallu treulio amser yn ddiogel gyda'u teuluoedd.
Rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n gallu adeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda phlant a phobl ifanc i ymuno â ni fel Gweithiwr Cymorth Plant.
Byddwch chi'n dod yn rhan o dîm sefydledig, cefnogol sy'n cludo plant i'r ysgol ac yn helpu'r timau gwaith cymdeithasol gydag amser teuluol dan oruchwyliaeth rhwng plant sy'n derbyn gofal a'u teuluoedd.
Bydd angen i chi allu defnyddio car yn rheolaidd a bod ar gael i gludo plant i'r ysgol ac yn ôl (a allai fod o 7.30am).
I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag Alison Williams, Rheolwr, drwy ffonio 01554 773723, amwilliams@sirgar.gov.uk
Disgrifiad Swydd:
033885.pdf - 226KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 26/05/2025, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.