Rydyn ni'n chwilio am staff brwdfrydig i ymuno â'n gweithlu yn ein cartrefi gofal a'r carfanau gofal cymdeithasol yng Nghwm Cynon. Rydyn ni'n darparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer unigolion sydd â diagnosis o ddementia. Bydd angen ichi gofrestru fel Gweithiwr Cartref Gofal i Oedolion gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a chwblhau cymwysterau perthnasol os nad ydych yn meddu ar y rhain adeg eich penodi.
Bydd dyletswyddau yn cynnwys gofal personol i breswylwyr, rhoi meddyginiaeth, gweithredu cynlluniau gofal sy'n canolbwyntio ar ddeilliannau yn unol ag asesiadau unigolion, hyrwyddo dewis, parchu unigolrwydd, preifatrwydd ac urddas i'r Oedolion sydd fwyaf agored i Niwed a chadw at egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.
Byddwch chi'n meddu ar agwedd gadarnhaol a dealltwriaeth o anghenion pobl hŷn. Byddai profiad o weithio gyda phobl hŷn neu o dreulio amser yn eu cwmni o fantais.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cymorth i gwblhau Cymhwyster Craidd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rhaglen sydd wedi'i dylunio i'ch paratoi chi ar gyfer eich swydd newydd a bwrw ymlaen i gyflawni eich cymhwyster Lefel 2 mewn Gofal.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Dawn Williams ar 01685 878485.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr