- Rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn i ddefnyddwyr gwasanaeth gan gynnwys cyffuriau rheoledig
- Cyflawni dyletswyddau fel y nodir mewn cynlluniau gofal a chymorth, bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth sydd ag anghenion cymhleth neu ddwys
- Cynnal rhaglenni gwaith penodol yn uniongyrchol ac yn rhithwir gydag oedolion a hynny un-i-un neu mewn grup, gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill i gefnogi cynlluniau gofal a chymorth unigol
- Sicrhau y cedwir at systemau gweithio diogel o ddydd i ddydd er mwyn galluogi'r gwasanaeth i fodloni gofynion RIDDOR, COSHH, codi a chario, cymorth cyntaf a meddyginiaeth
- Ymateb i unrhyw sefyllfaoedd brys drwy gymryd y camau priodol e.e. cysylltu â meddyg, gwasanaeth ambiwlans, gwasanaeth tân, gwasanaeth heddlu ac ati
- Bod yn gyfrifol am drin yn ddiogel eiddo ac offer sy'n perthyn i'r defnyddiwr gwasanaeth
- Meithrin perthynas waith effeithiol gyda defnyddwyr gwasanaeth, a chyfathrebu'n dda â nhw
- Adnabod a rheoli risgiau yn y byrdymor a'r tymor canolig i sicrhau bod defnyddwyr y gwasanaeth yn ddiogel a nodi risgiau y mae'n rhaid eu huwchgyfeirio i'r gweithiwr proffesiynol
- Bod yn gyfrifol am gynnal gwaith ymyriadau ac atal, gan gynnwys achosion cymhleth, a fydd yn cefnogi unigolion â'u lles meddyliol, cymdeithasol a chorfforol a cheisio gwella eu canlyniadau tymor hir
- Gweithio mewn partneriaeth gydag unigolion, eu teuluoedd ac asiantaethau eraill mewn ffordd gyson a rhagweithiol, gan ddefnyddio dull Arwyddion Diogelwch sy'n rhoi pwyslais ar gryfderau, gan gynnwys mewn amgylchiadau pan fo'r berthynas yn anodd
- Rhoi gofal personol yn unol â'r cynllun gofal a chymorth ac yn cynnwys y technegau codi a chario cywir
- Defnyddio technegau Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol neu Team Teach yn ôl cyfarwyddiadau'r cynllun gofal a chymorth
- Rhoi datganiad llygad-dyst ar gyfer achosion cyfreithiol lle bo angen
- Diweddaru systemau cofnodi yn ôl y galw i gadw cofnod o'ch gwaith
- Gweithio yn ystod y dydd a'r nos ar rota dreigl. Bydd disgwyl i staff nos weithio yn ystod y dydd ar adegau i gyflenwi, hyfforddi neu oruchwylio. Bydd gofyn i staff dydd gyflenwi shifft nos fel rhan o hyfforddiant neu i gyflenwi
- Gwneud unrhyw ddyletswyddau eraill sy'n gymesur â lefel a disgwyliad y swydd, gan gynnwys pan fydd angen gweithio mewn Tîm ac/neu leoliad arall
Sicrhau Ansawdd - Rhoi gwybod i'r Tîm Rheoli am bob cwyn a chanmoliaeth
- Trafod ac eirioli dros ddefnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd ac eraill, yn ogystal â gyda nhw
- Trefnu a chymryd rhan mewn cyfarfodydd defnyddwyr gwasanaeth rheolaidd
- Cadw cofnodion priodol yn unol â gofynion y Cyngor neu'r Gwasanaeth a darparu data pan fo hynny'n berthnasol
Cyfrifoldebau Cyffredinol - Hyrwyddo'r Gymraeg a dewis iaith defnyddwyr gwasanaeth yn ôl gofynion safonau'r Gymraeg a fframwaith Mwy na Geiriau
- Hyrwyddo cyfle cyfartal wrth ddarparu gwasanaethau
- Gweithio fel tîm a deall eich rôl a'ch cyfrifoldebau chi ynddo
- Cadw gwybodaeth sy'n ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth, ymwelwyr a staff yn gyfrinachol
- Sicrhau bod yr holl gofnodion Iechyd a Diogelwch a goruchwylio gofynnol yn cael eu cwblhau yn unol â pholisïau a systemau perthnasol
- Hyrwyddo a pharchu hawliau defnyddwyr gwasanaeth i breifatrwydd, urddas a dewis
- Hebrwng defnyddwyr gwasanaeth i fynd allan er mwyn iddynt gadw cysylltiadau cymunedol
- Datblygu gwaith partneriaeth effeithiol gyda chydweithwyr mewnol ac allanol ac asiantaethau eraill
- Cadw at ddeddfwriaeth a chanllawiau statudol perthnasol, polisïau a gweithdrefnau mewnol mewn perthynas â materion proffesiynol a gweinyddol
- Bod yn ymwybodol a gwybod am Strategaethau Cenedlaethol a Lleol perthnasol gan gynnwys y Strategaeth Integredig Gydol Oes a Lles
- Mynychu cyfarfodydd tîm, sesiynau goruchwylio a chyrsiau hyfforddiant pan fydd yn briodol ac yn unol â chyfarwyddyd y Rheolwr Llinell, ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonOs hoffech wybodaeth bellach am y rôl hon, cysylltwch â Matthew Parry trwy e-bost:
Matthew.parry@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng