Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio 30 awr Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 3 dydd i ymuno â Chartref Gofal Preswyl Hafan Deg, Lampeter yn barhaol.
Am y rôl Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath yn y rôl amrywiol a gwerth chweil hon. Fel canllaw cyffredinol, gall eich dyletswyddau dyddiol gynnwys:
- sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn parhau i gydymffurfio'n llawn â Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a'r rheoliadau cysylltiedig;
- bod yn swyddog cyfrifol yn absenoldeb y Rheolwr/Dirprwy Reolwr;
- rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn gan gynnwys cyffuriau rheoledig i ddefnyddwyr gwasanaeth a chynorthwyo i reoli system effeithiol ar gyfer rheoli a rhoi meddyginiaeth yn ddiogel yn unol â pholisi a gweithdrefnau rhanbarthol a mewnol;
- darparu gofal cyflawn i gleientiaid yn unol â'r drefn ddyddiol fel yr amlinellir yn y cynlluniau gofal;
- darparu cymorth emosiynol a sicrwydd i gleientiaid, yn enwedig pan fydd angen iddynt addasu i newid/a/neu argyfwng teuluol;
- hebrwng cleientiaid allan o'r sefydliad, e.e. teithiau hamdden;
- cwblhau cofnodion dyddiol;
- cynnal gwasanaeth glanhau, golchi dillad ac ystafell fwyta.
Ein hymgeisydd delfrydol Mae profiad blaenorol o weithio mewn cartref gofal yn hanfodol ynghyd â charedigrwydd, amynedd, parch a gwytnwch.
Ein cynnig i chi Mae cyfraniad ein gweithwyr i iechyd, diogelwch a llesiant preswylwyr ein cartrefi gofal yn amhrisiadwy. Rydym felly am sicrhau bod ein Gweithwyr Gofal a Chymorth yn gweld gweithio i Geredigion yn brofiad gwerth chweil.
I gael rhagor o wybodaeth am ein buddion cyflogeion cliciwch
yma .
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn gofalgar a thosturiol ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Cyflwyno cais Rydym wedi ei gwneud yn haws i chi wneud cais drwy symleiddio ein ffurflen gais. Mae cyflwyno cais nawr yn haws nag erioed!
Os bydd angen cymorth arnoch i gwblhau eich cais, mae croeso i chi gysylltu â 01970 633949 neu e-bostio
adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk .
Gwybodaeth Ychwanegol Mae'r rôl hon yn cynnwys gweithio ar benwythnosau fel rhan o wythnos waith arferol neu rota. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hawl i'r tâl canlynol:
- Dydd Sadwrn - Amser a chwarter;
- Dydd Sul - Amser a hanner.
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonCysylltwch â ni Am ragor o wybodaeth a sgwrs anffurfiol am y swydd hon cysylltwch â Matthew Parry:
Matthew.Parry@ceredigion.gov.uk Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnaublaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng