“Rhannwch ein Gwerthoedd ... Rhannwch ein Gofal”Mae gyda ni gyfleoedd i bobl sy'n rhannu ein gwerthoedd ymuno â'n Gwasanaeth Gofal Canolraddol ac Adsefydlu.
- Mae cytundebau parhaol a chytundebau 16 a 20 awr yr wythnos ar gael.
- Swyddi ym maes Gofal Canolraddol ac Adsefydlu, darparu gofal tymor byr i gynorthwyo unigolion i adennill eu hannibyniaeth.
Amdanom ni... Rydyn ni'n garfan fawr sy'n parhau i ehangu, ac sy'n gweithio tuag at gynnal ethos cryf o undod. Mae modd i bob aelod o staff fanteisio ar gefnogaeth gan garfan brofiadol o oruchwylwyr, aseswyr risg, rheolwyr a therapyddion proffesiynol er mwyn dysgu am gyfrifoldebau'r rôl, magu hyder a mwynhau gyrfa werth chweil ym maes gofal.
Y swydd Byddwch chi'n cefnogi rhaglenni adsefydlu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gynyddu annibyniaeth ac ansawdd bywyd yr unigolyn i'r eithaf. Rydyn ni'n cynnig hyn yng nghartref yr unigolion i wneud y pethau sy'n bwysig iddyn nhw ac sy'n hollbwysig i'w hiechyd a'u lles.
Mae'r gwasanaeth yn weithredol bob diwrnod o'r flwyddyn ac mae oriau gweithio yn amrywio rhwng 7.30am a 10pm. Mae ein staff cymorth yn gweithio dros 5 diwrnod. Caiff rota ei ddarparu ymlaen llaw ac rydyn ni'n ceisio cynnig cymaint o hyblygrwydd ag sy'n bosibl er mwyn diwallu anghenion ein staff.
Rydyn ni'n awyddus i glywed gan bobl ymroddgar a dibynadwy sy'n barod i ddysgu sgiliau newydd ac sydd â'r gallu i weithio ar eu liwt eu hunain.
Rhaid i chi allu teithio'n annibynnol ledled y Fwrdeistref Sirol.
Buddion... - Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi'i ariannu
- Aelodaeth ar gofrestr Gofal Cymdeithasol Cymru wedi'i thalu
- Cefnogaeth lawn a rhaglen hyfforddiant am ddim
- Cysgodi aelodau o staff profiadol yn ystod eich cyfnod sefydlu
- Treuliau ar gyfer amser a chostau teithio (45c y filltir ar hyn o bryd)
- Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) angenrheidiol a bydd asesiadau risg trylwyr o'r amgylchedd gwaith yn cael eu cynnal yn unol â chanllawiau'r llywodraeth
- Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol pwrpasol am ddim gan gynnwys hunanatgyfeirio ar gyfer ffisiotherapi a gwasanaeth cwnsela cyfrinachol
- Cynllun pensiwn gweithle hael
- Cerdyn buddion staff
- Gostyngiadau pellach yn rhan o gynllun cerdyn
- Cyfleoedd cynnydd yn y gwaith
Oes diddordeb gyda chi...? Am sgwrs anffurfiol neu i ddysgu rhagor am y swydd cyn i chi wneud cais, ffoniwch Hayley Thorne neu Tina Hannam ar (01443) 425070 ac fe fyddan nhw'n falch o siarad â chi.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o amcanion hirdymor y Cyngor mewn perthynas â'r Gymraeg a'i Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi ym manyleb y person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro hwn. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.