Math o gontract: Parhaol/ Rhan Amswer
Lleoliad: Yn y gymuned
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Cymorth Cartref ac Ailalluogi (HART).
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £9,192 - £9,829 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Mae Tîm Cymorth Cartref ac Ailalluogi yn darparu cymorth i Oedolion o fewn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili drwy ein gwasanaethau Gofal Cartref, Gofal Brys, Asesu ac Ailalluogi.
Mae contractau amrywiol ar gael – Diwrnodau, Te, Twilight.
Mae ein Gwasanaeth yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr Iechyd a Chymuned, i ddarparu'r cymorth cywir ar yr adeg iawn i unigolion yn eu cartref eu hunain.
Byddwch chi'n derbyn hyfforddiant penodol yn y gweithle a fydd yn gwella eich sgiliau presennol a datblygu rhai newydd er mwyn rhoi'r hyder a'r gallu i chi cynorthwyo unigolion i gyflawni eu potensial yn llawn.
Ydy hwn yn swnio fel swydd sy’n addas i chi? Os felly, byddwn ni'n rhoi'r canlynol i chi:
- Rhaglen sefydlu gynhwysfawr.
- Hyfforddiant i hybu eich datblygiad proffesiynol parhaus.
- Model asesu risg wedi'i sefydlu.
- Goruchwyliaeth reolaidd, gwerthusiad blynyddol a chyfleoedd ar gyfer ymarfer myfyriol.
- Swyddogion monitro ac uwch swyddogion cefnogol a phrofiadol.
- Arweinyddiaeth amlwg a chryf gan yr Uwch Dîm Rheoli.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan staff profiadol neu bobl sydd am ddechrau gyrfa mewn gofal.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn i chi fod â'r canlynol: - Gwybodaeth am reoliadau gofal cartref.
- Profiad o ddarparu gofal, neu gynorthwyo â hynny, naill ai mewn cyflogaeth bresennol / blaenorol neu ar gyfer aelod o'r teulu.
- Trwydded yrru lawn y DU Categori B (Ceir) a defnydd o gerbyd modur wedi'i yswirio at ddibenion busnes/gwaith i deithio ledled y Fwrdeistref Sirol i fynychu cyfarfodydd.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Seran Wady ar 01443 873556 neu ebost:
[email protected] neu Kelly-Anne Cegielski ar 01443 864717 neu ebost:
[email protected].
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
[email protected] am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.
Bydd swyddi parhaol yn gofyn i chi weithio'n hyblyg gan gynnwys ar benwythnosau a Gwyliau Banc.