Oriau gwaith: 25/30/0 Oriau
Math o gontract: Parhaol/ Rhan Amswer/ Achlysurol - yn ôl yr angen. Bydd gan y gweithiwr peripatetig rota ond fe all newid i ddiwallu anghenion y gwasanaeth. Sifftiau: diwrnodau 7.5 awr, yn y prynhawn, dros nos, deffro yn y nos, penwythnosau.
Lleoliad: Byw â chymorth Caerffili
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Caerffili a darparu cymorth ar draws y Tîm Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion ehangach.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £17,286 - £22,110 ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Allech chi wneud gwahaniaeth i fywyd rhywun?
Os felly, dyma’r swydd i chi, gyda chynllun Byw â Chymorth Caerffili.
Mae gennym ni swyddi gwag yn ein gwasanaethau presennol ac yn ein cynlluniau datblygu newydd sydd i fod i agor ym mis Mehefin eleni. Mae hwn yn gyfle gwych i gynorthwyo oedolion ag anabledd dysgu a'u galluogi nhw i ffynnu a byw bywyd i'w llawn botensial.
Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth ac arweiniad ac yn cyflawni pob agwedd ar ofal personol yn ôl yr angen gan sicrhau cynnal preifatrwydd, urddas, parch, dewis, annibyniaeth a hunan-barch unigolion bob amser. Byddwch chi hefyd yn helpu rheoli risg unigolion trwy gadw at Asesiadau Risg a Chynlluniau Rheoli ar y cyd â pholisïau a gweithdrefnau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae wedi’i bennu y bydd deiliad llwyddiannus y swydd yn fenywaidd oherwydd anghenion gofal a dewis personol yr unigolion. Mae hon yn nodwedd warchodedig o dan ofyniad galwedigaethol y swydd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Rhaid cyflawni cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn amserlen gytunedig.
- Dealltwriaeth o'r egwyddorion sy'n sail i amgylchedd gofal o ansawdd, h.y. preifatrwydd, urddas, parch, dewis, annibyniaeth a hawliau.
- Y gallu i weithio sifftiau ar sail rota a gweithio'n hyblyg, gan gynnwys ar benwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau preswyl.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Linda Birt ar 07808251575 neu ebost:
birtl@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â
webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.