Oriau gwaith: 0 OriauMath o gontract: Achlysurol, Wrth Gefn
Lleoliad: Gwasanaethau Seibiant i Oedolion - Caerffili a'r Coed Duon
Tîm: Gwasanaethau i Oedolion
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £13.69 awr ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Ydych chi'n angerddol am hyrwyddo annibyniaeth a chynorthwyo unigolion i gyflawni nodau personol?
Mae Gwasanaethau Seibiant Montclaire (Coed Duon) a Tŷ-Gwilym (Caerffili) yn awyddus i recriwtio Gweithwyr Gofal Cymdeithasol achlysurol.
Rydyn ni’n darparu seibiannau tymor byr i unigolion ag anableddau corfforol a dysgu, gan annog dewis, presenoldeb yn y gymuned a datblygiad personol. Byddwch chi’n helpu unigolion i ddarganfod profiadau newydd, meithrin sgiliau cymdeithasol a ffurfio cyfeillgarwch mewn amgylchedd cefnogol.
Os ydych chi wedi ymrwymo i rymuso pobl eraill a chael effaith gadarnhaol, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Ar gyfer y rôl, rydyn ni'n gofyn bod gennych chi'r canlynol: - Gofyniad i gyflawni cymhwyster Lefel 2 neu 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol o fewn amserlen wedi’i chytuno.
- Dealltwriaeth o'r egwyddorion sy'n sail i amgylchedd gofal o ansawdd, h.y. preifatrwydd, urddas, parch, dewis, annibyniaeth a hawliau.
- Profiad gyda phobl sydd angen cymorth gyda phob agwedd ar ofal personol, bywyd pob dydd a sgiliau cymdeithasol.
- Y gallu i weithio sifftiau ar sail rota a gweithio'n hyblyg, gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau preswyl.
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Nathan James ar 07873702393 neu ebost:
Jamesn2@caerphilly.gov.ukGellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.