Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Social Services Assistant - Adult
Disgrifiad o'r swydd
Gweithiwr Gofal Cymdeithasol
Disgrifiad Swydd Gwasanaethau Gofal Seibiant - Anableddau Dysgu
1 Swydd wag x 25 awr wedi'i lleoli yn Ystrad Fechan Bungalow, Treorci
1 Swydd wag x 25 awr wedi'i lleoli yn Beech Cottage, Abercwmboi, Aberdâr
1 swydd x 30 awr wedi'i lleoli yn Nheras Belle Vue, Trefforest.
Gradd 5 - £26,824 y flwyddyn (pro rata); £13.90 yr awr
Ydych chi'n chwilio am her? Ydych chi'n mwynhau rhoi cymorth i bobl? Rydyn ni'n gobeithio recriwtio staff brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â'n carfan o Weithwyr Gofal Cymdeithasol sy'n darparu gofal a chymorth i unigolion yn ein Cartrefi Gofal Seibiant i bobl ag Anableddau Dysgu, ar sail hyblyg.
Byddai profiad o fod yn gefn i bobl sydd mewn cartref gofal cymdeithasol yn ddymunol ond ddim yn hanfodol, gan y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddod â'u sgiliau a'u profiadau nhw'u hunain i'r rôl. O'ch penodi, byddwch chi'n dilyn rhaglen ymsefydlu ac yn ymgymryd â hyfforddiant perthnasol parhaus, ynghyd â bod yn destun goruchwyliaeth barhaus er mwyn gweithio mewn modd effeithiol. Bydd gofyn i chi ymgymryd â hyfforddiant gorfodol megis Rheoli Ymddygiad Cadarnhaol a hyfforddiant bwydo trwy diwb achos bydd gofyn i chi gefnogi unigolion ag ystod eang o anghenion o ran eu gofal. Bydd angen cymwysterau priodol, neu ddangos ymrwymiad i ennill y cymwysterau hynny yn unol â Chod Ymarfer Proffesiynol Gofal Cymdeithasol. Bydd hefyd gofyn i chi gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.
Oherwydd bod y gwasanaethau ar gael 365 diwrnod y flwyddyn, bydd gofyn i'r ymgeiswyr llwyddiannus weithio ystod o sifftiau ar sail rota, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, sifftiau oriau dydd, gyda'r hwyr, dros nos (ar ddihun), penwythnosau a gwyliau banc gan gynnwys y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Byddwch chi'n derbyn tâl ychwanegol am weithio ar benwythnosau ac oriau anghymdeithasol.
Am sgwrs anffurfiol neu i ddysgu rhagor am y swydd cyn i chi gyflwyno cais, ffoniwch Leah Sullivan, Rheolwr Cofrestredig Beech Cottage ar (01443) 776007 neu Luke Giles, Rheolwr Cofrestredig Ystrad Fechan Bungalow ar (01443) 373211. Bydd y rheolwyr yn hapus i siarad â chi ac yn rhoi rhagor o fanylion i chi ynglŷn â'r swyddi gwag.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn y gweithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Mae Rhondda Cynon Taf yn croesawu ceisiadau gan bob adran o'r gymuned.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n diwallu'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr