Cyflog: GR5- £13.90 yr awr gydag ychwanegiadau ar gyfer penwythnosau ac oriau anghymdeithasol.
Rydyn ni am benodi unigolion brwdfrydig a hunan-ysgogol i ymuno â'n carfan o Weithwyr Gofal Cymdeithasol i roi gofal a chymorth i denantiaid dros 50 oed fel eu bod nhw'n gallu byw'n annibynol yn ein cyfleuster Gofal Ychwanegol.
Byddai profiad o fod yn gefn i bobl o fewn cyd-destun gofal cymdeithasol yn ddymunol ond ddim yn hanfodol, gan y bydd disgwyl i'r ymgeiswyr llwyddiannus ddod âu sgiliau a'u profiadau nhw'u hunain i'r rôl. Byddwch chi'n dilyn rhaglen ymsefydlu ac yn ymgymryd â hyfforddiant parhaus, ynghyd â bod yn destun goruchwyliaeth barhaus er mwyn gweithio mewn modd effeithiol.
Mae gyda ni ddiddordeb mewn clywed gan bobl a all fod yn ymroddedig, yn ddibynadwy ac yn barod i ddysgu sgiliau newydd, ac sydd âr gallu i ddefnyddio mentergarwch. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn cael eu cefnogi i gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru ac mae'r bartneriaeth gref sydd gyda ni gyda'r adran hyfforddiant fewnol ymroddedig yn sicrhau bod cefnogaeth ddysgu yn diwallu anghenion ein gweithwyr ar sail unigol. Byddwn ni hefyd yn ad-dalu ffioedd cofrestru yn brydlon.
Dyma wasanaeth 365 diwrnod y flwyddyn, felly bydd disgwyl i staff achlysurol gynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl ymlaen llaw i gwmpasu sifftiau dydd, prynhawn a nos.
Am sgwrs anffurfiol neu i gael rhagor o wybodaeth am y swydd cyn i chi wneud cais, cysylltwch â Sarah Witchell / Julie James ar 01443 309262.
Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe’ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr