Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Social Services Assistant - Adult
Disgrifiad o'r swydd
35 awr Gweithiwr Gofal Cymdeithasol x 1
25 awr Gweithiwr Gofal Cymdeithasol x 1
Mae'n rota dreigl 3 wythnos, gan weithio yn y bore, y prynhawn a'r nos ar gyfer y ddau gontract 25 awr dros 4 diwrnod a 35 awr dros 5 diwrnod.
Os ydych yn berson cadarnhaol, gofalgar a llawn cymhelliant sy'n hoffi helpu pobl, bydd croeso i chi ymuno â'n tîm yng ngwasanaeth Preswyl a Gofal Ychwanegol Tŷ Ynysawdre i bobl hŷn.
Mae profiad yn cael ei groesawu, ond nid oes ei angen; credwn mai pwy ydych chi fel person a'r gwahaniaeth y gallwch ei wneud sy'n bwysig. P'un a ydych yn newydd i'r rôl neu wedi cefnogi teulu neu ffrindiau yn flaenorol, rydym am glywed gennych; y cyfan rydym yn ei ofyn yw bod gennych angerdd i wneud newidiadau cadarnhaol i fywydau pobl.
Bydd eich cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys:
- Darparu cymorth sy'n canolbwyntio ar y person sydd wedi'i deilwra i anghenion unigol, gan gydnabod cryfderau, galluoedd a chanlyniadau a ddymunir. Annog pobl i wneud dewisiadau hyddysg gan gydnabod yr hyn sy'n bwysig iddynt yn eu bywydau.
- Rhoi cymorth i hyrwyddo annibyniaeth gydag agweddau ar fywyd bob dydd a nodwyd yng nghynlluniau gofal a chymorth unigolion a allai gynnwys deiet/paratoi bwyd, cymorth gyda meddyginiaeth a hylendid personol.
- Gweithio fel rhan o dîm ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol, therapyddion, a chydweithwyr iechyd i gyflawni canlyniadau a nodwyd.
- Cymryd rhan mewn sesiynau goruchwylio a chyfleoedd datblygu gyrfa fel y cytunwyd arnynt gyda'ch rheolwr a chymryd rhan weithredol mewn hyfforddiant er mwyn cynnal eich datblygiad proffesiynol eich hun a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a gwella cymhwysedd yn eich rôl.
- Bod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau eich hun o ran diogelu unigolion mewn perygl a rhoi gwybod am unrhyw bryderon a allai roi'r unigolyn, chi, neu eraill mewn perygl.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â:
- Gwerthoedd ac egwyddorion cadarn, sy'n canolbwyntio ar y person.
- Y gallu i fod yn barchus a gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywydau pobl.
- Sgiliau gwrando a chyfathrebu gweithredol
Os hoffech ein helpu i wneud gwahaniaeth dyma'r hyn y gallwn ei gynnig i chi:
- Cyflog cystadleuol
- Hawl i wyliau blynyddol hael; ynghyd âr opsiwn i brynu gwyliau ychwanegol
- Cofrestru ar gyfer y cynllun pensiwn llywodraeth leol rhagorol
- Cymwysterau wedi'u cyllido a'u cefnogi'n llawn - FfCCh Lefel 2 ac uwch Iechyd a Gofal Cymdeithasol (os nad ydych wedi'u cyflawni eisoes) a thelir am Gofrestriad Gweithiwr Gofal Cymdeithasol
- Rhaglen hyfforddi gynhwysfawr gyda chyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer dilyniant gyrfa
- Rhaglen Cymorth i Gyflogeion sy'n cynnig mynediad am ddim i gyflogeion 24 awr y dydd/365 diwrnod y flwyddyn i gael cwnsela, cyngor ac arbenigwyr cymorth ar gyfer amrywiaeth o faterion yn ogystal â chymorth iechyd a llesiant.
- Sawl cynllun gwobrwyo staff sy'n cynnig amrywiaeth o ostyngiadau ar-lein neu yn y stryd fawr ledled y wlad ac yn lleol.
- Mynediad at y Cynllun Buddiannau Car sy'n cynnig car newydd sbon ar brydles, yswiriant, treth ffordd, teiars newydd, gwasanaeth MOT ac yswiriant cynnal a chadw a thorri i lawr am un taliad misol, yn ogystal âr Cynllun Beicio i'r Gwaith.
- Gwersi Cymraeg am ddim.
Ffoniwch Kay Rees i gael rhagor o wybodaeth 01656 754951.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae trwydded yrru ddilys yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Gweithio ar Benwythnosau yn un o ofynion y swydd hon.
Dyddiad Cau: 18 Chwefror 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 19 Chwefror 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 05 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr