NODWEDDION PERSONOL HANFODOL Bod yn berson sensitif, ymroddedig gonest a dibynadwy gyda'r gallu i weithredu mewn modd sy'n parchu hawliau'r unigolyn bob amser. Gallu gweithredu yn unigol ac fel aelod o dîm.
DYMUNOL -
CYMWYSTERAU A HYFFORDDIANT PERTHNASOL HANFODOL QCF 2/CGC 2 Gofal (neu gymhwyster cyfatebol) neu ymrwymiad i gymhwyso o fewn amserlen benodedig
DYMUNOL Hyfforddiant mewn iechyd a diogelwch e.e. symud a thrin, gymorth cyntaf. Hyfforddiant perthnasol yn y maes gofal cymdeithasol
PROFIAD PERTHNASOL HANFODOL -
DYMUNOL Profiad o ofalu neu ymwneud ag oedolion bregus. Profiad o waith domestig cyffredinol megis cadw tŷ Profiad o weithio mewn tîm proffesiynol
SGILIAU A GWYBODAETH ARBENIGOL
HANFODOL
Meddu a'r sgiliau rhyngbersonol da Sgiliau cyfathrebu da Dealltwriaeth o egwyddorion darparu gofal
DYMUNOL Dealltwriaeth a gwybodaeth am gyflyrau iechyd penodol Ymwybyddiaeth o Ddeddf Gofal 2000 a dealltwriaeth o'r safonnau perthnasol Meddu ar drwydded yrru ddilys.
ANGHENION IEITHYDDOL
HANFODOL Gwrando a Siarad - Lefel Canolradd Gallu cynnal sgwrs rwydd ar nifer o bynciau amrywiol bob dydd, a thrafod achosion sy'n ymwneud â'r maes gwaith. Gallu dilyn trafodaeth yn y Gymraeg, mewn Cymraeg Clir, ar faterion cyfarwydd yn ymwneud â'r swydd. Gallu cyfrannu at y sgwrs ac ateb cwestiynau.
Darllen a Deall - Lefel Canolradd Deall gohebiaeth bob dydd ar faterion cyfarwydd yn y gwaith. Deall adroddiadau hirach mewn Cymraeg Clir a medru codi'r prif bwyntiau. ( Mae'n bosib y bydd angen cymorth gyda geirfa.)
Ysgrifennu - Lefel Canolradd Gallu ysgrifennu llythyrau i bwrpas penodol, negeseuon ebost ac adroddiadau byr drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg gan ddefnyddio geirfa ac ymadroddion syml sy'n gyfarwydd i'r maes gwaith. (Bydd angen eu gwirio cyn eu hanfon allan).
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd • Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Cefnogi ag annog defnyddwyr gwasanaeth i fod mor annibynnol â phosibl drwy gynorthwyo'r unigolyn eu teuluoedd a'u gofalwyr gyda thasgau nad ydynt yn gallu ymdopi gyda neu yn ei chael hi'n anodd gwneud ar ben eu hunain.
• Sicrhau fod lles corfforol ac emosiynol y defnyddwyr gwasanaethyn cael eu cwrdd drwy weithredu Cynllun y Defnyddiwr.
• Gwneir hyn i gyd drwy ddilyn canllawiau a pholisïau Cyngor Gwynedd yn ogystal â chydymffurfio a Safonau a'r Rheoliadau Cenedlaethol perthnaso Deddf Gofal 2000.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer • Parchu a defnyddio'n briodol unrhyw offer a chyfarpar sydd at ddefnydd y gwasanaeth.
• Rhoi gwybod cyn gynted ag sydd bosibl i'ch Rheolwr Llinell a/neu'r person sydd â chyfrifoldeb am yr offer o unrhyw ddiffyg ynddo, neu o ddiffyg yn y gwasanaethau (dwr, trydan, nwy ayb
• Sicrhau rheolaeth briodol o eiddo defnyddwyr e.e. meddyginiaeth ac arian parod.
Prif ddyletswyddau • I sicrhau a pharchu urddas ac annibyniaeth defnyddwyr y gwasanaeth drwy arferion gofal da ac yn unol â Pholisi Cyngor Gwynedd a Safonau a Rheoliadau Cenedlaethol Deddf Gofal 2000
• I ddarparu cefnogaeth a chyflawni tasgau penodol yn unol Chynllun Gofal yr unigolyn e.e. gofal personol
• I fod yn sensitif i'r angen apbarchu hawliau, credoau a dewisiadau yr unigolyn ar bob achlysur.
• I ymddwyn yn broffesiynol ar bob achlysur yn ogystal â chydymffurfio 'a'r cod gwisg briodol
• I gyfathrebu yn effeithiol gyda'r defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, staff ac asiantaethau eraill wrth barchu cyfrinachedd bob amser.
• I fod yn rhan o'r broses o gynllunio, paratoi, gweithredu ac adolygu cynllun y defnyddiwr unigol.
• I weithredu os yn berthnasol fel gweithiwr allweddol ar gyfer nifer penodedig o ddefnyddwyr y gwasanaeth a mynychu cyfarfodydd adolygu a chynadleddau achos y defnyddwyr hynny gan gyfrannu adroddiadau ysgrifenedig a llafar.
• I gofnodi a rhoi gwybodaeth mewn dogfennau yn ffeiliau'r defnyddiwr gwasanaeth ar sail ddyddiol.
• I ymgymryd â dyletswyddau glanhau a londri.
• I baratoi prydau bwyd a diod fel bo'r angen a gweini'r prydau.
• I gydymffurfio yn llawn gyda Chod Meddigyniaeth Cyngor Gwynedd.
• I ymrwymo i ddilyn rhaglen hyfforddiant yn unol ar Gofynion Cenedlaethol, a derbyn cyfrifoldeb am eich datblygiad proffesiynol.
• I gymhwyso i safon QCF 2/neu gyfatebol oddi fewn i amserlen benodol.
• I fynychu cyfarfodydd yn unol â chyfarwyddyd Rheolwr Llinell
• I fynychu sesiynau Goruchwylio a gwerthusiad staff
• I ymgyfarwyddo a gweithredu polisïau, trefniadaeth a chanllawiau'r Cyngor ynglŷn ag arferion da. .
• I gydymffurfio gyda holl bolisïau iechyd a diogelwch yr adran. Mae gan bob gweithiwr gyfrifoldeb am ofalu am ei iechyd ei hun a iechyd y diogelwch eraill.
• I ymgymryd ag unrhyw dasg sydd yn addas a rhesymol i'r swydd yn ôl eich Rheolwr Llinell ag sydd er lles a datblygiad defnyddwyr Gwasanaeth
• I gofrestru â Chyngor Gofal Cymru yn unol â'r canllawiau cenedlaethol.
• I gydymffurfio gyda gofynion polisi a chanllawiau Amddiffyn Oedolion Bregus Cymru.
• I feddu ar drwydded yrru ddilys a defnydd o gerbyd sydd yn cydymffurfio a Pholisi Teithio Cyngor Gwynedd
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig • Angen i weithio oriau anghymdeithasol dros saith diwrnod ar sail rota. Bydd hyn yn golygu penwythnosau gwyliau banc fel bo angen.
• Ymdrin ag arian personol unigolion yn unol â chynllun gofal neu ganllawiau trafodion ariannol Cyngor Gwynedd
• Ar adegau mae' bosibl y bydd angen i ddeilydd y swydd ymgymryd â dyletswyddau cysgu i mewn
• Ymgymryd â dyletswyddau gall eich Rheolwr llinell eu dirprwyo i chwi.
• Mae'r swydd ddisgrifiad uchod yn disgrifio pwrpas pennaf a phrif elfennau'r swydd. Mae'n ddarlun o natur a phrif ddyletswyddau'r swydd fel mae'n bodoli yn bresennol, ond ni fwriedir iddo fod yn ddarlun holl-gynhwysfawr ac nid yw yn rhan o'r cytundeb cyflogaeth.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr