Carmarthenshire County Council / Cyngor Sir Gaerfyrddin
Lleoliad
Sir Gaerfyrddin
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Cyflog
££- 27,630 - £- 28,515 y flwyddyn
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Cartrefi Gofal
Rôl
Gweithiwr Cartref Gofal i Oedolion
Disgrifiad o'r swydd
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.
Ynglŷn â'r swydd wag
Cyfeirnod y Swydd Wag: 2864
Sefydliad:
Cyngor Sir Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag:
1
Math o gontract:
Parhaol Rhan-amser
Lleoliad:
Sanclêr
Gradd:
Gradd D +8%
Cyflog:
£27,630 - £28,515
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr:
£14.32 - £14.78
Oriau Contract:
30 awr
Dewch i ymuno â'n tîm
Dewch i ymuno â'n tîm
Mae croeso i weithwyr gofal profiadol a'r rhai sy'n newydd i ofal wneud cais. Bydd yr unigolion yn gweithio fel rhan o dîm sefydledig i ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel mewn lleoliad gofal preswyl. Mae bod yn Weithiwr Gofal yn rôl werth chweil ac rydym yn chwilio am unigolion sy'n llawn cymhelliant, angerddol, sydd ag agwedd gadarnhaol ac sydd am wneud gwahaniaeth i fywydau'r bobl rydym yn eu cefnogi.
Bydd cyfrifoldebau hefyd yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
• Dyletswyddau Gofal • PersonolSymud a thrin, • defnyddio offer lle bo angen • Paratoi Prydau • Cymorth gyda meddyginiaeth (yn unol â Pholisi Meddyginiaethau'r Awdurdod) • Cymryd cyfarwyddyd gan weithwyr proffesiynol sy'n ymweld (Therapydd Galwedigaethol, Ffisiotherapydd, meddyg teulu, Nyrs Ardal ac ati). Disgwylir i bob aelod o staff gofal weithio tuag at QCF Lefel 2 at ddibenion cofrestru os nad ydynt eisoes wedi'u cyflawni.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Jason Gregory 01994 230039
Disgrifiad Swydd:
Job profile Care Worker Days.pdf - 255KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS:
Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad:
Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 17/03/2026, 23:55
Y Buddion
Rydym yn falch o gynnig amrywiaeth o fuddion i'n staff. Noder mai dim ond rhai o'r hyn a allai fod ar gael yw'r enghreifftiau a ddangosir, a gall cymhwysedd amrywio yn dibynnu ar eich rôl neu'ch math o gontract. Er enghraifft, efallai na fydd rhai buddion yn berthnasol i weithwyr achlysurol.
• Cyflog cystadleuol • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd Gwybodaeth Ychwanegol
Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.
Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr