Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Amrywiol
Rydym yn datblygu cartrefi gofal preswyl ac yn recriwtio timau i'w rhedeg. Mae ein gwaith yn ymwneud â gofalu am blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth, felly mae'n hanfodol eich bod am wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywydau.
Trosolwg o'r Swydd:
Rydym yn chwilio am Weithwyr Gofal Plant Preswyl lefel 1 - i ymuno â'n tîm, gan gynnig gwasanaethau preswyl cynhwysfawr i blant a phobl ifanc. Eich rôl fydd sicrhau bod eu hanghenion corfforol, cymdeithasol ac emosiynol yn cael eu diwallu, a meithrin eu datblygiad cyfannol wrth hybu gwydnwch. Mae'r swydd hon yn rhan o lwybr gyrfa i ofal preswyl i blant.
Gweithiwr Gofal Plant Preswyl Lefel 1:
Efallai nad oes gennych chi lawer o brofiad ond rydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth, yn agored i ddysgu newydd ac eisiau adeiladu gyrfa. Fel Gweithiwr Lefel 1 byddwch yn mynychu coleg ac yn cael y cyfle i weithio ar draws ein lleoliadau preswyl. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â'n staff profiadol a fydd yn eich mentora a'ch hyfforddi. Ar ôl cwblhau eich cymhwyster byddwch yn symud ymlaen yn awtomatig i Weithiwr Lefel 2 ac yn gweithio o fewn un o'n lleoliadau preswyl.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano:
- Natur gyfeillgar, ddibynadwy a chefnogol gyda golwg gadarnhaol ar fywyd. - Y gallu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol gyda'r plant yr ydych yn eu cefnogi. - Agored i ddysgu a datblygu sgiliau a gwybodaeth.
Rydyn ni'n gwybod bod gwneud cais am swyddi yn gallu bod yn frawychus ac efallai eich bod chi'n ansicr a oes gennych chi'r gwerthoedd, y sgiliau a'r profiad cywir. Mae gennym ni berson arbenigol o'r enw Mentor Cyflogaeth a fydd yn eich arwain a'ch cefnogi drwy'r broses recriwtio.
- Cymerwch amser i ddarllen y wybodaeth ychwanegol sy'n cyd-fynd âr hysbyseb swydd hon a chysylltwch â ni. - Rydym eisiau dysgu amdanoch chi ac rydym am rannu ein hangerdd dros ddatblygiad staff.
Pam Ymuno â Ni:
- Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a'u teuluoedd. - Amgylchedd cefnogol a diogel lle mae lleisiau plant yn cael eu clywed ac yn canolbwyntio ar eu hanghenion unigol. - Ymrwymiad i gefnogi plant a theuluoedd i ailuno ac aros gyda'i gilydd. - Cyfle i ddechrau eich gyrfa Gweithiwr Gofal Plant Preswyl trwy ein Llwybr Dilyniant. - Goruchwyliaeth reolaidd, hyfforddiant achrededig, ac adolygiadau datblygu perfformiad blynyddol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
The ability to communicate in Welsh is a mix of essential (x2) / desirable (x2) for this post. We are committed to our Welsh language and are proud of our Welsh culture. We welcome applications in both Welsh and English and application forms received in either language will not be treated less favourably than each other. We're passionate about supporting and encouraging you to use your Cymraeg whatever your level. We offer free classes at all levels, in-person and on-line to support you.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch âr rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr