Trosolwg o'r swydd:Yr ydym yn chwilio am Weithwyr Gofal Plant Preswyl ymroddgar i ymuno â'n tîm, i gynnig gwasanaethau preswyl cynhwysfawr i blant a phobl ifanc. Eich rôl fydd sicrhau bod eu hanghenion corfforol, cymdeithasol ac emosiynol yn cael eu diwallu, gan feithrin eu datblygiad cyfannol a'u gwytnwch.
Yr hyn y byddwch chi'n ei wneud: - Diogelu a hybu lles plant.
- Sefydlu strwythur, ffiniau a threfn, cefnogi pobl ifanc gyda'u haddysg a gweithgareddau dyddiol.
- Creu amgylchedd cynnes, caredig a chyfeillgar i blant diamddiffyn.
- Cyflawni dyletswyddau cysgu i mewn a gweithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys gwasanaeth effro drwy'r nos yn achlysurol.
- Arwain a mentora cydweithwyr, gan sicrhau tryloywder a gonestrwydd ym mhob gweithred.
Yr hyn rydym ni'n chwilio amdano: - Natur gyfeillgar, ddibynadwy a chefnogol, gydag agwedd gadarnhaol at fywyd.
- Gallu datblygu perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol gyda'r plant yr ydych yn eu cefnogi.
- Profiad o gefnogi teuluoedd, gan ein bod yn defnyddio dull cyfannol yn ein harferion.
- Isafswm o ddwy flynedd o brofiad uniongyrchol yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn gofal preswyl (yn ddymunol, ond nid yn angenrheidiol).
- Cymhwyster NVQ / FfCCh Lefel 3 ym maes gofalu am blant a phobl ifanc.
- Safon dda o addysg, gyda Graddau C TGAU neu Lefel 2 FfCCh mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Ymarfer Cymdeithasol (neu gyfwerth).
Pam ymuno â ni: - Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a'u teuluoedd.
- Amgylchedd cefnogol a diogel lle caiff lleisiau plant eu clywed, ac y canolbwyntir ar eu hanghenion unigol.
- Ymrwymiad i gefnogi plant a theuluoedd i ailuno ac aros gyda'i gilydd.
- Goruchwyliaeth reolaidd, hyfforddiant priodol ac adolygiadau datblygiad perfformiad blynyddol.
Gofynion: - Gallu gwella a thrafod perthnasoedd gyda phlant, gan gynnal disgwyliadau cadarn ond gofalgar.
- Dealltwriaeth o arferion gofal plant preswyl ac arwyddion / symptomau camdriniaeth.
- Gallu ymdrin â sefyllfaoedd anodd a difrifol gyda strategaethau arloesol.
- Parodrwydd i ymgysylltu âr model gofal therapiwtig i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc.
Gwybodaeth ychwanegol: - Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus gael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Sut i wneud cais:Os ydych chi'n frwd dros annog a chefnogi plant i gyrraedd eu llawn botensial, ac yn rhannu ein gwerthoedd o fod yn hyderus, yn gynnes ac yn onest, fe fyddem yn eich annog i wneud cais. Hyd yn oed os nad ydych chi'n bodloni'r holl feini prawf, ond yn credu y gellwch chi wneud argraff gadarnhaol, fe hoffem ni glywed gennych chi.
Ymunwch â ni ym Mwthyn y Ddôl a bod yn rhan o dîm sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Stephanie Jones, Rheolwr Preswyl ( Stephanie.jones@conwy.gov.uk / 07547353549)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch âr rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.