Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Disgrifiad o'r swydd
Nodwch os bydd cyfanswm uchel o ymgeiswyr y byddwn yn dod â'r hysbyseb swydd i ben yn gynt.
Lleoliad gwaith: Canolfan Asesu Bwthyn y Ddôl, Bae Colwyn
Amdanom ni: Ym Mwthyn y Ddôl, credwn ei bod yn fraint fawr cael bod yn rhan o fywyd plentyn. Mae ein Gweithwyr Gofal Plant Preswyl yn gwneud mwy na gweld plant unwaith yr wythnos yn unig; maent yn darparu cefnogaeth a gofal cyson am 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, gan gynorthwyo plant i fyw bywyd pob dydd a deall y byd o'u cwmpas.
Trosolwg o'r swydd: Yr ydym yn chwilio am Weithwyr Gofal Plant Preswyl ymroddgar i ymuno â'n tîm, i gynnig gwasanaethau preswyl cynhwysfawr i blant a phobl ifanc. Eich rôl fydd sicrhau bod eu hanghenion corfforol, cymdeithasol ac emosiynol yn cael eu diwallu, gan feithrin eu datblygiad cyfannol a'u gwytnwch.
Yr hyn y byddwch chi'n ei wneud: - Diogelu a hybu lles plant. - Sefydlu strwythur, ffiniau a threfn, cefnogi pobl ifanc gyda'u haddysg a gweithgareddau dyddiol. - Creu amgylchedd cynnes, caredig a chyfeillgar i blant diamddiffyn. - Cyflawni dyletswyddau cysgu i mewn a gweithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys gwasanaeth effro drwy'r nos yn achlysurol. - Arwain a mentora cydweithwyr, gan sicrhau tryloywder a gonestrwydd ym mhob gweithred.
Yr hyn rydym ni'n chwilio amdano: - Natur gyfeillgar, ddibynadwy a chefnogol, gydag agwedd gadarnhaol at fywyd. - Gallu datblygu perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol gyda'r plant yr ydych yn eu cefnogi. - Profiad o gefnogi teuluoedd, gan ein bod yn defnyddio dull cyfannol yn ein harferion. - Isafswm o ddwy flynedd o brofiad uniongyrchol yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn gofal preswyl (yn ddymunol, ond nid yn angenrheidiol). - Cymhwyster NVQ / FfCCh Lefel 3 ym maes gofalu am blant a phobl ifanc. - Safon dda o addysg, gyda Graddau C TGAU neu Lefel 2 FfCCh mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Ymarfer Cymdeithasol (neu gyfwerth).
Pam ymuno â ni: - Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a'u teuluoedd. - Amgylchedd cefnogol a diogel lle caiff lleisiau plant eu clywed, ac y canolbwyntir ar eu hanghenion unigol. - Ymrwymiad i gefnogi plant a theuluoedd i ailuno ac aros gyda'i gilydd. - Goruchwyliaeth reolaidd, hyfforddiant priodol ac adolygiadau datblygiad perfformiad blynyddol.
Gofynion: - Gallu gwella a thrafod perthnasoedd gyda phlant, gan gynnal disgwyliadau cadarn ond gofalgar. - Dealltwriaeth o arferion gofal plant preswyl ac arwyddion / symptomau camdriniaeth. - Gallu ymdrin â sefyllfaoedd anodd a difrifol gyda strategaethau arloesol. - Parodrwydd i ymgysylltu â'r model gofal therapiwtig i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc.
Gwybodaeth ychwanegol: - Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus gael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Sut i wneud cais: Os ydych chi'n frwd dros annog a chefnogi plant i gyrraedd eu llawn botensial, ac yn rhannu ein gwerthoedd o fod yn hyderus, yn gynnes ac yn onest, fe fyddem yn eich annog i wneud cais. Hyd yn oed os nad ydych chi'n bodloni'r holl feini prawf, ond yn credu y gellwch chi wneud argraff gadarnhaol, fe hoffem ni glywed gennych chi.
Ymunwch â ni ym Mwthyn y Ddôl a bod yn rhan o dîm sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Nick Appleton, Rheolwr Preswyl (07714171724 / Nick.appleton1@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr