Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Sylva Gardens, Llandudno
Ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth go iawn!
Hoffech chi helpu pobl ifanc i gael y bywyd gorau posib'? Yma yn Sylva Gardens rydym ni'n cydweithio i greu cartref gofalgar a chefnogol i dri o bobl ifanc hyd at 18 oed gydag anableddau dysgu. Rydym ni'n canolbwyntio ar anghenion bob plentyn, gan eu helpu i ennill sgiliau, annibyniaeth a theimlad o berthyn i'r gymuned.
Ynglŷn â'r Swydd: • Does dim angen profiad - dim ond agwedd gofalgar a pharodrwydd i ddysgu • Fel Gweithiwr Lefel 1 byddwch yn dechrau eich gyrfa gyda ni ac yn cael llawer iawn o gefnogaeth • Byddwch yn mynd i'r coleg i ennill eich cymhwyster craidd ac yn gweithio yn Sylva Gardens ar yr un pryd
Hyfforddiant a Chefnogaeth • Bydd staff profiadol yn eich hyfforddi a'ch mentora, gan eich helpu i fagu hyder ac ennill sgiliau • Byddwch yn dysgu sut i gefnogi plant yn eu bywydau bob dydd, sut i ddelio â sefyllfaoedd heriol a sut i gyfathrebu'n effeithiol • Mae'r hyfforddiant yn ymdrin â dulliau pwysig fel 'Cefnogaeth Weithredol' a 'Chefnogi Ymddygiad yn Gadarnhaol' - sydd wedi'u dylunio i helpu plant i ffynnu a'ch helpu chi i ddelio gyda sefyllfaoedd anodd ac argyfyngus, a deall sut i roi strategaethau priodol ar waith i gefnogi'r bobl ifanc i reoli ymddygiad heriol • Ar ôl i chi ennill eich cymhwyster a chwblhau'ch cyfnod prawf, byddwch yn dod yn Weithiwr Lefel 2, gan dderbyn mwy o gyfrifoldebau a gweithio oriau hyblyg i ddiwallu anghenion y plant • Datblygu cydberthnasau proffesiynol dibynadwy gyda phlant a phobl ifanc i'w cadw'n ddiogel, gan sicrhau cydbwysedd rhwng eu grymuso a gosod ffiniau mewn modd meithringar, cefnogol a chyson • Datblygu eich sgiliau eich hun er mwyn cyfathrebu'n llwyddiannus âr plentyn / person ifanc gan ddilyn strategaeth y mae yn ei deall
Am beth rydym ni'n chwilio: • Natur gyfeillgar, ddibynadwy a chefnogol, gydag agwedd gadarnhaol • Rhywun sy'n gallu meithrin perthynas dda gyda phlant ac sy'n barod i ddysgu pethau newydd •n gallu gweithio oriau anghymdeithasol, a gallu cysgu i mewn a gwneud dyletswyddau effro drwy'r nos (ar ôl cyrraedd Lefel 2)
Pam ymuno â ni? • Gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant • Gweithio mewn tîm cefnogol lle mae llais y plentyn yn bwysig • Goruchwyliaeth reolaidd, hyfforddiant achrededig a chyfle i ddringo'r ysgol yrfa
Byddwn yn cynnal amryw o Sesiynau Gwybodaeth Trwy Teams ar:
Byddwn yn cynnal sesiynau gwybodaeth amrywiol ar Teams felly os oes gennych chi ddiddordeb neu os hoffech chi fwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar gofalwncymru@conwy.gov.uk a bydd ein Mentor Cyflogaeth yn eich tywys chi drwy'r broses ymgeisio. Rydym ni'n edrych ymlaen at eich cyfarfod, a'ch cefnogi chi ar eich taith.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Sharon Garland, Rheolwr Adain Gweithlu ( Sharon.garland@conwy.gov.uk / 01492 575618)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol x2 a ddymunol x4 ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch âr rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr