Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Disgrifiad o'r swydd
Nodwch os bydd cyfanswm uchel o ymgeiswyr y byddwn yn dod â'r hysbyseb swydd i ben yn gynt.
Lleoliad gwaith: Bwthyn y Ddôl
Amdanom ni: Ym Mwthyn y Ddôl credwn yn y fraint fawr o gael bod yn rhan o fywyd plentyn. Mae ein Gweithwyr Gofal Plant Preswyl yn gwneud mwy na gweld plant unwaith yr wythnos yn unig; maent yn darparu cefnogaeth a gofal cyson am 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, gan gynorthwyo plant i fyw bywyd pob dydd a deall y byd o'u cwmpas.
Trosolwg o'r swydd: Yr ydym yn chwilio am Weithwyr Gofal Plant Preswyl ymroddgar i ymuno ân tîm, i gynnig gwasanaethau preswyl cynhwysfawr i blant a phobl ifanc. Eich rôl fydd sicrhau bod eu hanghenion corfforol, cymdeithasol ac emosiynol yn cael eu diwallu, a meithrin eu datblygiad cyfannol gan hefyd hybu gwytnwch. Mae'r swydd hon yn rhan o lwybr gyrfa i ofal preswyl plant.
Yr hyn fyddwch chi'n ei wneud: - Diogelu a hybu lles plant. - Sefydlu strwythur, ffiniau a threfn, cefnogi pobl ifanc gyda'u haddysg a gweithgareddau dyddiol. - Creu amgylchedd cynnes, caredig a chyfeillgar i blant diamddiffyn. - Cyflawni dyletswyddau cysgu i mewn a gweithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys gwasanaeth effro drwy'r nos yn achlysurol.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano: - Natur gyfeillgar, ddibynadwy a chefnogol, gydag agwedd gadarnhaol at fywyd. - Gallu datblygu perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol gyda'r plant yr ydych yn eu cefnogi. - Profiad o gefnogi teuluoedd a phlant, gan ein bod yn defnyddio dull cyfannol yn ein harferion. - Cymhwyster NVQ / FfCCh Lefel 3 ym maes gofalu am blant a phobl ifanc, neu barodrwydd i weithio tuag at gymhwyster. - Safon dda o addysg, gyda Graddau C TGAU neu Lefel 2 FfCCh mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Ymarfer Cymdeithasol (neu gyfwerth).
Pam ymuno â ni: - Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a'u teuluoedd. - Amgylchedd cefnogol a diogel lle caiff lleisiau plant eu clywed, ac y canolbwyntir ar eu hanghenion unigol. - Ymrwymiad i gefnogi plant a theuluoedd i ailuno ac aros gyda'i gilydd. - Goruchwyliaeth reolaidd, hyfforddiant priodol ac adolygiadau datblygiad perfformiad blynyddol.
Gofynion: - Gallu neu barodrwydd i ddysgu sut i wella a thrafod perthnasoedd gyda phlant, gan gynnal disgwyliadau cadarn ond gofalgar. - Dealltwriaeth o arferion gofal plant preswyl ac arwyddion / symptomau camdriniaeth a thrawma. - Gallu neu barodrwydd i ddysgu sut i ymdrin â sefyllfaoedd anodd a difrifol gyda strategaethau arloesol. - Parodrwydd i ymgysylltu âr model gofal therapiwtig i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc.
Gwybodaeth ychwanegol: - Mae'n rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus gael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Sut i ymgeisio: Os ydych yn frwdfrydig dros annog a chefnogi plant i gyrraedd eu llawn botensial, a'ch bod yn rhannu ein gwerthoedd o fod yn hyderus, cynnes a gonest, byddem yn eich annog i ymgeisio. Hyd yn oed os nad ydych yn bodloni'r holl feini prawf, ond yn credu y gallwch wneud argraff gadarnhaol, yr ydym eisiau clywed gennych.
Ymunwch â ni ym Mwthyn y Ddôl a bod yn rhan o dîm sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Nick Appleton, Rheolwr Preswyl, (07714171724 / Nick.appleton1@conwy.gov.uk)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr