Mae'r cartref pwrpasol newydd yn darparu gyrfaoedd a phrofiadau sy'n heriol, yn rhoi boddhad, ac wedi'u gwahaniaethu gan ein gwerthoedd wrth gydweithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant i 'gael y bywyd gorau posibl'.
Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol i blant a phobl ifanc a phrofiad boddhaus lle mae eu llais yn cael ei glywed ac yn canolbwyntio ar eu hanghenion unigol a'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
Trosolwg o'r swydd:Yr ydym yn chwilio am Weithwyr Gofal Plant Preswyl ymroddgar i ymuno â'n tîm, i gynnig gwasanaethau preswyl cynhwysfawr i blant a phobl ifanc. Eich rôl fydd sicrhau bod eu hanghenion corfforol, cymdeithasol ac emosiynol yn cael eu diwallu, a meithrin eu datblygiad cyfannol gan hefyd hybu gwytnwch. Mae'r swydd hon yn rhan o lwybr gyrfa i ofal preswyl plant. Gweler y disgrifiad swydd llawn ar gyfer meini prawf Lefel 2 a Lefel 3.
Yr hyn fyddwch chi'n ei wneud: - Diogelu a hybu lles plant.
- Sefydlu strwythur, ffiniau a threfn, cefnogi pobl ifanc gyda'u haddysg a gweithgareddau dyddiol.
- Creu amgylchedd cynnes, caredig a chyfeillgar i blant diamddiffyn.
- Cyflawni dyletswyddau cysgu i mewn a gweithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys gwasanaeth effro drwy'r nos yn achlysurol.
Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano: - Natur gyfeillgar, ddibynadwy a chefnogol, gydag agwedd gadarnhaol at fywyd.
- Gallu datblygu perthnasoedd cadarnhaol ac adeiladol gyda'r plant yr ydych yn eu cefnogi.
- Profiad o gefnogi teuluoedd a phlant, gan ein bod yn defnyddio dull cyfannol yn ein harferion.
- Lefel 3 mewn Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc (neu gyfwerth) neu barodrwydd i weithio tuag at gymhwyster.
- Safon dda o addysg, gyda Graddau C TGAU neu Lefel 2 FfCCh mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Ymarfer Cymdeithasol (neu gyfwerth).
Pam ymuno â ni: - Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a'u teuluoedd.
- Amgylchedd cefnogol a diogel lle caiff lleisiau plant eu clywed, ac y canolbwyntir ar eu hanghenion unigol.
- Ymrwymiad i gefnogi plant a theuluoedd i ailuno ac aros gyda'i gilydd.
- Goruchwyliaeth reolaidd, hyfforddiant priodol ac adolygiadau datblygiad perfformiad blynyddol.
- Gofynion:
- Gallu neu barodrwydd i ddysgu sut i wella a thrafod perthnasoedd gyda phlant, gan gynnal disgwyliadau cadarn ond gofalgar.
- Dealltwriaeth o arferion gofal plant preswyl ac arwyddion / symptomau camdriniaeth a thrawma.
- Gallu neu barodrwydd i ddysgu sut i ymdrin â sefyllfaoedd anodd a difrifol gyda strategaethau arloesol.
- Parodrwydd i ymgysylltu â'r model gofal therapiwtig i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc.
Gwybodaeth ychwanegol:Mae'n rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus gael datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Sut i ymgeisio:Os ydych yn frwdfrydig dros annog a chefnogi plant i gyrraedd eu llawn botensial, a'ch bod yn rhannu ein gwerthoedd o fod yn hyderus, cynnes a gonest, byddem yn eich annog i ymgeisio. Hyd yn oed os nad ydych yn bodloni'r holl feini prawf, ond yn credu y gallwch wneud argraff gadarnhaol, yr ydym eisiau clywed gennych.
Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o dîm sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: wecarewales@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol am rhai swyddi a hanfodol ar gyfer y gweddil am y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.