Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Bwthyn Y Ddol
Amdanom ni: Yn Bwthyn Y Ddol, credwn mai fraint ddofn yw rhannu bywyd plant. Mae ein Gweithwyr Preswyl yn darparu cefnogaeth a gofal di-baid 24/7, gan helpu plant i lywio eu bywydau bob dydd ac i ddeall y byd o'u cwmpas.
Trosolwg o'r swydd: Rydym yn chwilio am Weithwyr Gofal Plant Preswyl profiadol a thosturiol i ymuno â'n tîm, a gweithio'n hyblyg yn Bwthyn Y Ddol. Byddwch yn cefnogi pobl ifanc gydag anghenion cymhleth, gan sicrhau bod cysondeb o ran gofal, ac adeiladu perthnasau cryf a llawn ffydd. Bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar greu amgylchedd â strwythur, a therapiwtig sy'n galluogi plant i deimlo'n ddiogel, fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a'u grymuso. Mae hyn yn fwy na swydd - mae'n gyfle i gael effaith ystyrlon, a pharhaol ar fywyd plentyn.
Yr hyn y byddwch chi'n ei wneud: • Diogelu a hybu lles plant bob amser. • Sefydlu strwythur, ffiniau, ac arferion dyddiol clir er mwyn cefnogi plant gyda'u haddysg a'u bywyd dyddiol. • Creu amgylchedd cynnes, cyson ac sy'n meithrin ar gyfer plant diamddiffyn. • Arwain a mentora cydweithwyr yn unol â gwerthoedd didwylledd, gonestrwydd a chydweithio. • Cyflawni dyletswyddau cysgu i mewn a gweithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys gwasanaeth effro drwy'r nos weithiau. • Meithrin perthnasoedd proffesiynol gyda phobl ifanc, gan eu helpu i reoli emosiynau ac ymddygiadau anodd. • Gweithio'n hyblyg yn y ddau gartref preswyl i ddiwallu anghenion y gwasanaeth a phobl ifanc. • Cefnogi ailuniad plant gyda'u teuluoedd pan fo'n briodol.
Am beth rydym ni'n chwilio? • Unigolyn cyfeillgar, cefnogol a gwydn, gydag ymddygiad positif a brwdfrydedd. • Isafswm o ddwy flynedd o brofiad yn gweithio mewn gofal preswyl gyda phobl ifanc (yn ddymunol). • Diploma Lefel 3 QCF (neu NVQ cyfatebol) yn y maes Gofal Plant Preswyl (neu'n gweithio tuag ato). • Dealltwriaeth gadarn o ddiogelu, ymarfer sy'n canolbwyntio ar drawma, a datblygiad plant. • Gallu meithrin perthnasoedd ystyrlon a phroffesiynol gyda phlant a'u teuluoedd. • Profiad o weithio gyda phobl ifanc mewn lleoliad therapiwtig, â strwythur.
Pam ymuno â ni: • Gweithio mewn tîm angerddol, cefnogol, ac sy'n canolbwyntio ar y plentyn. • Bod yn rhan o wasanaeth sydd wedi ymrwymo i helpu plant i ailuno gyda'u teuluoedd lle bo'n bosib. • Derbyn goruchwyliaeth reolaidd, hyfforddiant cynhwysfawr, a chyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa. • Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, parhaol i fywydau plant bob dydd. Gwybodaeth ychwanegol: • Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus dderbyn gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. • Mae hyblygrwydd yn hanfodol, gan y byddwch yn gweithio yn y ddau gartref yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth. • Darperir hyfforddiant therapiwtig a chefnogaeth barhaus.
Sut i wneud cais: Os ydych chi'n teimlo'n angerddol am roi'r dechrau gorau posib i fywydau plant, ac yn rhywun sy'n arwain gyda chynhesrwydd, gonestrwydd a gwydnwch - hoffwn glywed gennych. Os nad ydych yn bodloni pob un o'r gofynion, ond rydych yn teimlo y gallwch ddod â rhywbeth arbennig i'r swydd hon, cysylltwch â ni. Ymunwch â ni ym Mwthyn y Ddôl a Hafan y Wern - a helpwch ni i newid bywydau, un dydd ar y tro.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Jessica Meredydd, Rheolwr Preswyl Plant
( jessica.meredydd1@conwy.gov.uk / 07856932618 )
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr