Gweithiwr Gofal Preswyl Nos Swydd-ddisgrifiad Yr Isafswm oedran Cyflogi yw 22 mlwydd oed
Am y rôl: Byddwch yn gweithio ar sail shifft nos mewn Cartref Plant yn Ne Powys. Mae'r cartref yn cefnogi 4 o blant/pobl ifanc 5-18 oed sydd ag ymddygiadau sy'n gysylltiedig ag anabledd dysgu, anghenion cymhleth ac awtistiaeth. Byddwch yn creu cartref diogel, iach, addysgol, a chyflawn lle mae lleisiau plant yn cael eu clywed i gyflawni canlyniadau cadarnhaol yn eu bywydau. Amdanoch chi: • Rydym ni'n chwilio am bobl sy'n ofalgar ac yn gallu creu perthynas gyda phobl ifanc. • Byddwch yn mwynhau cyfranogi a rhannu gweithgareddau, diddordebau a sgiliau bywyd. • Gallwch wrando ar blant a phobl ifanc gydag urddas a pharch. • Byddwch chi'n mwynhau gweithio mewn tîm bach sy'n fyfyriol, dyfeisgar, yn cyfrannu at ddiwylliant o ymddiriedaeth a chyfrifoldeb agored. •n deall pwysigrwydd darparu gofal proffesiynol arbenigol i ddarparu gwasanaeth diogel ac effeithiol, sy'n cael ei ddarparu mewn ffordd sy'n sensitif i anghenion plant a phobl ifanc. Eich dyletswyddau: •n gweithio ar rota sifft nos i ddarparu gofal parhaus fel rhan o dîm, i'r plant a'r bobl ifanc sy'n byw yn y cartref. • Byddwch yn adeiladu cydberthnasau cadarnhaol drwy feithrin, addysgu, creu perthynas, cyn cywiro gyda natur amyneddgar a thawel a hybu trefn iach a diogel drwy greu cartref cynnes a chynhwysol. •n trefnu a hyrwyddo gweithgareddau i blant a phobl ifanc i ddysgu pethau newydd ar archwilio diddordebau, hobïau a sgiliau newydd yn y cartref a'r gymuned leol. • Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a gofalwyr pobl ifanc i gyflawni nodau ac amcanion cynlluniau pobl ifanc. •n dilyn polisïau, gweithdrefnau a safonau deddfwriaethol yn eich gwaith gan ymdrechu bob amser i gadw'n gyfredol ag arferion gorau. Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â Recruitment@powys.gov.uk
Mae gofyniad o fewn y swydd am uwch archwiliad DBS gan fod y swydd
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr