Am y rôl: Byddwch yn gweithio ar sail shifft nos mewn Cartref Plant yn Ne Powys. Mae'r cartref yn cefnogi 4 o blant/pobl ifanc 5-18 oed sydd ag ymddygiad sy'n gysylltiedig ag anabledd dysgu, anghenion cymhleth ac awtistiaeth. Byddwch yn creu cartref diogel, iach, llawn dysgu lle mae lleisiau plant yn cael eu clywed er mwyn cyflawni canlyniadau cadarnhaol yn eu bywydau.
Amdanoch chi: - Rydym ni'n chwilio am bobl sy'n ofalgar ac yn gallu creu perthynas gyda phobl ifanc.
- Byddwch yn mwynhau cyfranogi a rhannu gweithgareddau, diddordebau a sgiliau bywyd.
- Gallwch wrando ar blant a phobl ifanc gydag urddas a pharch.
- Byddwch chi'n mwynhau gweithio mewn tîm bach sy'n fyfyriol, dyfeisgar, yn cyfrannu at ddiwylliant o ymddiriedaeth a chyfrifoldeb agored.
- Byddwch chi'n deall pwysigrwydd darparu gofal proffesiynol arbenigol i ddarparu gwasanaeth diogel ac effeithiol, sy'n cael ei ddarparu mewn ffordd sy'n sensitif i anghenion plant a phobl ifanc.
Eich dyletswyddau: - Byddwch chi'n gweithio ar rota sifft nos i ddarparu gofal parhaus fel rhan o dîm, i'r plant a'r bobl ifanc sy'n byw yn y cartref.
- Byddwch yn adeiladu cydberthnasau cadarnhaol drwy feithrin, addysgu, creu perthynas, cyn cywiro gyda natur amyneddgar a thawel a hybu trefn iach a diogel drwy greu cartref cynnes a chynhwysol.
- Byddwch chi'n trefnu a hyrwyddo gweithgareddau i blant a phobl ifanc i ddysgu pethau newydd ar archwilio diddordebau, hobïau a sgiliau newydd yn y cartref a'r gymuned leol.
- Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a gofalwyr pobl ifanc i gyflawni nodau ac amcanion cynlluniau pobl ifanc.
- Byddwch chi'n dilyn polisïau, gweithdrefnau a safonau deddfwriaethol yn eich gwaith gan ymdrechu bob amser i gadw'n gyfredol ag arferion gorau.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â Victoria Ruff-Cock, Uwch Reolwr Ymyrraeth ac Atal
01686 617553, victoria.ruff-cock@powys.gov.uk
Mae gofyniad o fewn y swydd am uwch archwiliad DBS