Am y rôl: Gweithiwr Gofal Preswyl Nos i weithio mewn Cartref Plant therapiwtig newydd yng Ngogledd Powys yn cefnogi 3 o blant/pobl ifanc (11-18 oed) ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol cymhleth oherwydd eu profiadau cynnar mewn bywyd. Fel rhan o dîm ymroddedig, byddwch yn creu cartref diogel a fydd yn gwella sefydlogrwydd lleoliadau a'r gallu i rianta i gefnogi plant a phobl ifanc â'r anghenion mwyaf cymhleth i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Amdanoch chi: Rydym yn chwilio am bobl sy'n gofalu ac sy'n gallu cysylltu â phobl ifanc a rhannu ein gwerthoedd: Proffesiynol, Cadarnhaol, Blaengar, Agored a Chydweithredol.
- Rhianta CADARNHAOL - a allwch chi adeiladu perthnasoedd trwy feithrin, addysgu cysylltiad cyn cywiro mewn modd amyneddgar a thawel
- Cefnogaeth arbenigol BROFFESIYNOL - a allwch chi ddilyn polisïau, gweithdrefnau a safonau y cytunwyd arnynt yn eich gwaith i ddarparu gwasanaeth diogel ac effeithiol, sy'n sensitif i anghenion plant a phobl ifanc
- Cyfleoedd BLAENGAR - a allwch chi ysgogi plant a phobl ifanc i hyrwyddo lles a darganfod eu gallu
- Cyfrifoldeb AGORED - a allwch chi weithio fel rhan o dîm sy'n fyfyriol ac yn ddyfeisgar i greu diwylliant o ymddiriedaeth
- Hyrwyddo AR Y CYD - a allwch chi ddangos i ni sut y byddech yn gwrando ar blant a phobl ifanc gydag urddas a pharch
Eich dyletswyddau: Bydd Gweithwyr Gofal Preswyl Nos yn gweithio rota o gyflenwad nos i ddarparu gofal
a chefnogaeth ar shifft yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.
- Eich rôl chi fydd yn gyfrifol am hyrwyddo trefn iach a diogel a chreu cartref cynnes a chynhwysol dan gyfarwyddyd y Rheolwr Cofrestredig.
- Ymgymryd â thasgau a chyfrifoldebau gweithwyr allweddol yn ôl y cyfarwyddyd. Hyrwyddo, cymryd rhan yn weithredol a sicrhau darpariaeth safonau uchel o ofal corfforol, hylendid, diogelwch a lles pob plentyn a pherson ifanc.
- Byddwch yn rhan o dîn trefnu, annog a rhannu gweithgareddau y tu mewn a'r tu allan, gan gynnwys gweithgareddau fel cynnal a chadw'r gerddi, creu gardd lysiau a chyfrifoldeb am ofalu, bwydo a lles anifeiliaid bach.
- Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a gofalwyr pobl ifanc i gyflawni nodau ac amcanion cynlluniau'r bobl ifanc.
- Sicrhau bod gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan a'r holl ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cael eu dilyn bob amser. I gadw fyny â datblygiadau, arferion a deddfwriaeth newydd ym maes gofal plant.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â
recruitment@powys.gov.uk Mae gofyniad o fewn y swydd am uwch archwiliad DBS gan fod y swydd