Yr Isafswm oedran Cyflogi yw 22 mlwydd oed Am y rôl: Mae gennym ni 5 cartref preswyl i Blant o amgylch Powys, yn Ystradgynlais, Aberhonddu, Y Trallwng a ger Llanbrynmair. Rydym yn bwriadu adeiladu tîm o weithwyr wrth gefn y gallwn ddibynnu arno ar gyfer salwch neu absenoldebau eraill.
Byddwch chi'n gweithio yn ôl patrwm sifft dydd mewn Cartref Plant mewn cymuned wledig. Byddwch chi'n creu cartref diogel, iach, addysgol, a bodlon ble mae'r plant yn cael gwrandawiad a sylw i gyflawni deilliannau cadarnhaol yn eu bywydau.
Amdanoch chi: - Rydym ni'n chwilio am bobl sy'n ofalgar ac yn gallu creu perthynas gyda phobl ifanc.
- Byddwch yn mwynhau cyfranogi a rhannu gweithgareddau, diddordebau a sgiliau bywyd.
- Gallwch wrando ar blant a phobl ifanc gydag urddas a pharch.
- Byddwch chi'n mwynhau gweithio mewn tîm bach sy'n fyfyriol, dyfeisgar, yn cyfrannu at ddiwylliant o ymddiriedaeth a chyfrifoldeb agored.
- Byddwch chi'n deall pwysigrwydd darparu gofal proffesiynol arbenigol i ddarparu gwasanaeth diogel ac effeithiol, sy'n cael ei ddarparu mewn ffordd sy'n sensitif i anghenion plant a phobl ifanc.
Eich dyletswyddau: - Byddwch chi'n gweithio ar rota sifft dydd i ddarparu gofal parhaus fel rhan o dîm i'r plant a'r bobl ifanc sy'n byw yn y cartref.
- Byddwch yn adeiladu cydberthnasau cadarnhaol drwy feithrin, addysgu, creu perthynas, cyn cywiro gyda natur amyneddgar a thawel a hybu trefn iach a diogel drwy greu cartref cynnes a chynhwysol.
- Byddwch chi'n trefnu a hyrwyddo gweithgareddau i blant a phobl ifanc i ddysgu pethau newydd ar archwilio diddordebau, hobïau a sgiliau newydd yn y cartref a'r gymuned leol.
- Gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd a gofalwyr pobl ifanc i gyflawni nodau ac amcanion cynlluniau pobl ifanc.
- Byddwch chi'n dilyn polisïau, gweithdrefnau a safonau deddfwriaethol yn eich gwaith gan ymdrechu bob amser i gadw'n gyfredol ag arferion gorau.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â Victoria Ruff-Cock, Uwch Reolwr Ymyrraeth ac Atal 01686 617553, victoria.ruff-cock@powys.gov.uk Mae gofyniad o fewn y swydd am uwch archwiliad DBS gan fod y swydd yn cael ei dosbarthu fel gweithgaredd a reolir dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012, ac fe fydd yn destun archwiliad o'r rhestr o'r bobl hynny a waherddir rhag gweithio gyda phlant.