Gweithiwr Ieuenctid - Ysgol (Ysgol Bro Caereinion)
Dyddiad cau 05/12/2025
Cyflogwr
Powys County Council / Cyngor Sir Powys
Lleoliad
Powys
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal plant
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Young Person's Advisor
Disgrifiad o'r swydd
Gweithiwr Ieuenctid - Ysgol (Ysgol Bro Caereinion) Swydd-ddisgrifiad Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol
Am y rôl: Cyfrifoldeb am gynllunio a threfnu a chyflwyno rhaglenni gwaith ieuenctid yn unol â Datganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru, Ymestyn Hawliau, Fframwaith Ymgysylltu a Dilyniant Ieuenctid a Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru. Fel y gall pobl ifanc gymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu anffurfiol o ansawdd uchel sy'n cefnogi eu mynediad at y 10 hawl a'u galluogi i gael hwyl a'u cefnogi wrth iddynt symud ymlaen i hyfforddiant a chyflogaeth ac annibyniaeth wrth iddynt ddatblygu i fod yn oedolion Amdanoch chi: • Brwdfrydedd ac ymrwymiad i wella bywydau pobl ifanc a'u teuluoedd • Y gallu i ffurfio perthnasoedd cadarnhaol a gweithredu fel model rôl gyda phlant sydd mewn perygl o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol • Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol • Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol • Y gallu i ddefnyddio tact a diplomyddiaeth pan fo angen Yr hyn y byddwch yn ei wneud: Cyflwyno darpariaeth gwaith ieuenctid mewn ysgolion dynodedig gan gynnwys cyflwyno sesiynau gwybodaeth rheolaidd o ansawdd da. Sefydlu perthnasoedd gweithio da gyda phobl ifanc gan alluogi gofal bugeiliol effeithiol a'r cyfle i ddarparu gwybodaeth a chyngor ac arweiniad priodol. Ceisio, adolygu ac ymateb i adborth gan bobl ifanc i lywio datblygu a chyflawni gwasanaethau, yn unol â'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Helen Quarrell Rheolwr Cynhwysiant - Gwasanaethau Ieuenctid Integredig helen.quarrell@powys.gov.uk
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manylach
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr