Cyfrifoldeb am gynllunio a threfnu a chyflwyno rhaglenni gwaith ieuenctid yn unol â Datganiad Cwricwlwm Gwaith Ieuenctid Cymru, Ymestyn Hawliau, Fframwaith Ymgysylltu a Dilyniant Ieuenctid a Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru. Fel y gall pobl ifanc gymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu anffurfiol o ansawdd uchel sy'n cefnogi eu mynediad at y 10 hawl a'u galluogi i gael hwyl a'u cefnogi wrth iddynt symud ymlaen i hyfforddiant a chyflogaeth ac annibyniaeth wrth iddynt ddatblygu i fod yn oedolion
Amdanoch chi: - Brwdfrydedd ac ymrwymiad i wella bywydau pobl ifanc a'u teuluoedd
- Y gallu i ffurfio perthnasoedd cadarnhaol a gweithredu fel model rôl gyda phlant sydd mewn perygl o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol
- Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol
- Y gallu i ddefnyddio tact a diplomyddiaeth pan fo angen
Yr hyn y byddwch yn ei wneud: Cyflwyno darpariaeth gwaith ieuenctid mewn ysgolion dynodedig gan gynnwys cyflwyno sesiynau gwybodaeth rheolaidd o ansawdd da.
Sefydlu perthnasoedd gweithio da gyda phobl ifanc gan alluogi gofal bugeiliol effeithiol a'r cyfle i ddarparu gwybodaeth a chyngor ac arweiniad priodol.
Ceisio, adolygu ac ymateb i adborth gan bobl ifanc i lywio datblygu a chyflawni gwasanaethau, yn unol â'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y rôl, cysylltwch â: Helen Quarrell Rheolwr Cynhwysiant - Gwasanaethau Ieuenctid Integredig helen.quarrell@powys.gov.uk Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manylach, mae'r swydd hon yn cael ei hystyried yn weithgaredd rheoledig o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diogelu Rhyddid 2012 a bydd yn amodol ar wiriad i'r rhestr o'r bobl hynny sydd wedi'u gwahardd rhag gweithio gyda phlant.