Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Dros dro
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau canolfan breswyl i deuluoedd
Rôl
Gweithiwr Cymorth Mewn Canolfan Breswyl i Deuluoedd
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
CYNGOR BWRDEISTREF SIROL WRECSAM
GOFAL CYMDEITHASOL I BLANT
GWEITHIWR PLANT A THEULUOEDD - DECHRAU'N DEG Y BLYNYDDOEDD CYNNAR
GO5 £16,212 - £16,735
25 awr yr wythnos (yn gweithio 42 wythnos y flwyddyn)
Dros dro am 12 mis gyda'r posibilrwydd o estyniad
Mae Dechrau'n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig cyfle go iawn i wneud gwahaniaeth i blant o dan 4 oed a'u teuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd penodol yn Wrecsam ac sydd fwyaf angen cymorth.
Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Gweithiwr Plant a Theuluoedd sydd â phrofiad yn y blynyddoedd cynnar i weithio yn narpariaeth gofal plant Dechrau'n Deg Canolfan Deulu TÅ• Ni ond gall weithio yn y ddau leoliad pan fo angen. Bydd y swydd yn golygu gweithio gyda phlant gydag anghenion ychwanegol sydd angen cymorth fel y gallant gael mynediad at y ddarpariaeth grŵp. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm cyfeillgar a brwdfrydig sy'n ymroddedig ac yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd ysgogol ar gyfer plant dwy i dair oed.
Bydd gennych chi gymhwyster QCF Lefel 3 neu gymhwyster perthnasol arall.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Wiriad Manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Am ffurflenni cais a manylion eraill:
Ffoniwch yr Adain Adnoddau Dynol
01978 292992, neu cysylltwch dros e-bost: HRServiceCentre@wrexham.gov.uk
I wneud cais ar-lein, ewch i'n gwefan: www.wrecsam.gov.uk
Rydym yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr â'r cymwysterau priodol sydd ag anableddau ac rydym wedi ymrwymo i Gyfleoedd Cyfartal.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.