Nid yw eich cyflog safonol ond yn cynnwys unrhyw oriau contractedig sy'n daladwy ar gyfradd dâl heb ei gwella. Telir dyletswyddau ychwanegol fel gwaith nos, oriau ychwanegol, goramser, neu lwfansau cysgu mewn ar wahân i'r tâl sylfaenol ac nid ydynt yn rhan o'r cyflog blynyddol sylfaenol a nodir. Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.
Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.
(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)
Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Shelley Louise Williams ar 07484977023 neu dros ebost; ShelleyLouiseWilliams@gwynedd.llyw.cymru
Cynnal cyfweliadau i'w gadarnhau.
Ffurflenni cais a manylion pellach gan , Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH
Ffôn: 01286 679076 eBost: Swyddi@gwynedd.llyw.cymru
DYDDIAD C AU: 10 : 00 O'R GLOCH, 17/03/2026 Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus
Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd. Manylion Person Nodweddion personolHanfodolSensitifrwydd
Hyblygrwydd
Ymrwymiad i weithio i warchod lles plant.
Gallu i weithio dan bwysau.
Gallu i weithio ar ei liwt ei hun ac fel aelod o dîm.
Brwdfrydedd i ddysgu a gweithredu ystod o ddulliau ymyrraeth.
Agwedd gadarnhaol tuag at ddefnyddwyr gwasanaeth a chydweithwyr
Dymunol-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol5 Tgau gradd C neu uwch
DymunolCymhwyster mewn maes gwaith plant (NVQ 3, Diploma mewn Astudiaethau Lles, Datblygiad Plant)
Tystiolaeth o ddatblygiad personol perthnasol drwy hyfforddiant mewn swydd
Profiad perthnasolHanfodolProfiad o weithio'n uniongyrchol gyda plant a phobl ifanc a'u teuluoedd
Profiad o gynllunio gwaith yn strwythuredig ac effeithiol
Profiad o weithio'n effeithiol gydag eraill ( cyd-weithwyr, teuluoedd ac asiantaethau)
Profiad o weithio'n unigol ac fel aelod o dîm.
Mynychu a chyfrannu tuag at gyfarfodydd.
DymunolProfiad o weithio gyda plant a theuluoedd sydd wedi profi anawsterau yn eu bywydau
Profiad o rhoi adborth dadansoddol ar waith a chynnydd mewn achosion unigol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodolSgiliau cyfathrebu da
Sgiliau TG
Gwybodaeth am anghenion plant a'u datblygiad.
Dealltwriaeth ac ymrwymiad i arferion gwrth hiliol a gwrth ormesol
Gallu i ddehongli a chofnodi digwyddiadau yn gywir a chlir.
Trwydded yrru gyfredol, lân.
Gallu i baratoi adroddiadau o ansawdd yn y Gymraeg a Saesneg.
Gallu i gyfathrebu yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig
DymunolGwybodaeth am ddatblygu sgiliau personol e.e. rhiantu, dulliau o ddelio ag ymddygiad.
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - UwchGallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - UwchGallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - UwchCyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad Pwrpas y Swydd:
Gweithio fel rhan o dîm preswyl cartref plant
- Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydan ni yn ei wneud.
- Fel aelod o'r tim, darparu gofal uniongyrchol ac ymyrraethau ataliol i blant a phobl ifanc o ddydd i ddydd ynghyd a dyletswyddau a thasgau cefnogol eraill o fewn yr uned.
- Cydweithio'n agos gyda partneriaid mewnol ac allanol i gael y canlyniadau gorau i ddefnyddwyr gwasanaeth.
- Darparu ystod o ymyrraethau gan ddefnyddio'r ymyrraeth fwyaf effeithiol a phwrpasol i gyd-fynd ag anghenion plant a'u teuluoedd.
Mae y gwaith yma yn rhan o brosiect ehangach felly yn ôl y gofyn bydd angen i chi weithio mewn tai preswyl eraill yn Wynedd.
Cyfrifoldeb am Adnoddau:
- Offer cegin a choginio.
- Sicrhau deunydd priodol o gyflusterau'r adeilad
Prif Ddyletswyddau:
- I gyfrannu tuag at llunio cynlluniau gofal a chefnogaeth, cymryd rhan mewn adolygiadau a chyfarfodydd eraill, ac i gynorthwyo wrth weithredu'r cynlluniau.
- Bod yn aleod o dim, gan gefnogi cyd-weithwyr a derbyn cefnogaeth fel bo'r angen.
- Datblygu perthynas weithio dda gyda'r plant i ddatblygu ymddiriedaeth, gwella cyswllt a mynediad i wasanaethau a chynorthwyo gyda chyfathrebu a chydlynu.
- Datblygu gwydnwch a hyder teuluoedd i'w grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus a chymryd cyfrifoldeb am eu bywydau eu hunain drwy roddi iddynt y sgiliau angenrheidiol.
- Mynychu Cyfarfodydd Cynllunio ac Adolygu a chyfrannu tuag at ddatblygu cynllun gweithredu. Cadw nodiadau o'r cyfarfodydd a fynychir a'r gwaith achos a wneir. Darparu crynodeb ac adroddiadau o waith achos
- Annog a chefnogi i ddilyn y cynllun gweithredu.
- Llunio a darparu amrediad o ymyrraethau i gefnogi plant yn eu cymunedau lleol.
- Hybu a galluogi Plant i fyw bywyd annibynnol yn y gymuned.
- Hybu a galluogi Plant i gyrraedd eu llawn botensial, mewn modd sydd yn hyrwyddo eu lles, iechyd, datblygiad a diogelwch.
- Sicrhau bod y gwasanaeth yn ymateb i anghenion y plentyn gan ddilyn cynllun ymddygiad yn ol yr angen.
- Cynorthwyo a chefnogi i ofalu am y plant.
- Bod yn wyliadwrus o arwyddion o anhapusrwydd a chamdriniaeth ,ac i sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn a'u monitro.
- I adael i'r rheolwr llinell, neu unrhyw berson addas arall, wybod am unrhyw ymarfer gwael neu bryderus neu unrhyw dystiolaeth sy'n crybwyll hynny.
- I gymryd gofal o anghenion corfforol pobl ifanc fel bo angen e.e coginio, golchi, smwddio, siopa, ymolchi, rheoli arian, neu drwy cynorthwyo'r plant I gwblhau'r tasgau hyn.
- Rhoi gwybod i gyd-weithwyr o unrhyw ddatblygiadau/digwyddiadau perthnasol e.e wrth newid shift.
- I siarad efo, a gwrando ar blant, gan gofnodi unrhyw beth arwyddocaol.
- Mynychu cyfarfodydd ac unrhyw gyfarfodydd eraill fel bo'r angen ac a ystyrir yn addas gan y Rheolwr Tim.
- Derbyn goruchwyliaeth gyson.
- Bod yn hyblyg, o fewn ffiniau rhesymol, er mwyn sicrhau darpariaeth staff ddigonol ar gyfer yr uned.
- Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
- Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
- Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
- Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac i annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
- Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
- Cyfrifoldeb i adrodd ar bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau Arbennig:
Mae natur y swydd yn golygu gweithio tu allan i oriau arferol swyddfa, gan gynnwys penwythnosau.
Lleolir y swydd yn Deiniolen ond yn ôl y gofyn i weithio mewn tai preswyl eraill yn Wynedd.