Gweithiwr Preswyl Plant (Asesu a darpariaeth frys)
Dyddiad cau 04/03/2026
Cyflogwr
Bridgend County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Lleoliad
Penybont
Pob ardal
Manylion
Oriau contract
Rhan Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Disgrifiad o'r swydd
30 awr yr wythnos
Mae hon yn adeg gyffrous i ymuno â CBS Pen-y-bont ar Ogwr wrth i ni barhau i ailfodelu'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant y mae angen ein cymorth arnynt yn unol ag agenda Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar elw mewn gwasanaethau preswyl plant yng Nghymru.
Mae Golygfa'r Dolydd yn lle hwyl a bywiog i weithio ynddo. Mae'r gwasanaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod pob aelod o'r tîm yn ymroddedig, yn dosturiol ac yn y pen draw yn rhoi anghenion y plant yn gyntaf. Rhaid i aelodau'm fod yn ymrwymedig i weithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person er mwyn diwallu anghenion y plant. Rhaid i bob aelod o'm weithio'n dda gydag eraill a gweithio'n dda mewn tîm.
Mae Golygfa'r Dolydd yn gartref pwrpasol sy'n darparu gofal a chymorth i bobl ifanc rhwng 6 ac 17 oed. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys dwy ran benodol, y ddarpariaeth asesu a'r ddarpariaeth argyfwng. Gellir gosod hyd at saith o bobl ifanc o unrhyw rywedd yn y gwasanaeth ar unrhyw un adeg: pedwar yn y ddarpariaeth asesu a thri yn y ddarpariaeth argyfwng.
Mae Golygfa'r Dolydd yn cynnig amgylchedd therapiwtig i blant a phobl ifanc, gan ddefnyddio dull sy'n ystyriol o drawma i ddarparu'r cymorth mwyaf effeithiol posibl. Eu galluogi i ddeall eu hamgylchiadau unigol, datblygu sgiliau cydnerthedd a hunanofal.
Mae gan Golygfa'r Dolydd Ddadansoddwr Ymddygiad Ardystiedig Bwrdd ar y safle sy'n cydlynu'r gwaith o asesu ac ymyriadau therapiwtig i bobl ifanc ac yn gweithio'n agos gyda'r staff i ddatblygu Cynlluniau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol pwrpasol i leihau ymddygiad heriol a chynorthwyo newid ymddygiad cadarnhaol.
Mae'r rôl yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr fod yn frwdfrydig, yn chwilfrydig ac yn ymroddedig. Bydd yr ymgeiswyr eu hunain yn awyddus i ddysgu a datblygu eu hymarfer ac ymgymryd â phecyn hyfforddi cynhwysfawr. Mae datblygiad proffesiynol parhaus yn un o'r gofynion ac ymrwymiad i gwblhau'r cymhwyster iechyd a gofal cymdeithasol gorfodol, yn unol â rheoliadau.
A ydych yn teimlo eich bod am fod yng nghanol datblygiad parhaus y dull arloesol hwn o ofal? A ydych yn gallu gweithio'n hyblyg? A allwch weithio i'r safonau uchaf, gan sicrhau bod y cartref yn parhau i gydymffurfio â Gofynion Rheoliadol ac yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl? Os felly, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant ac Oedolion gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon
Mae cysgu i mewn a gweithio ar benwythnosau yn ofyniad ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 4 Mawrth 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 9 Mawrth 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 18 Mawrth 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr