Ym Mwthyn y Ddôl a Hafan y Wern, credwn ei bod yn fraint fawr cael bod yn rhan o fywyd plentyn. Mae ein cartrefi yn fwy na fannau diogel yn unig - maent yn amgylcheddau sy'n meithrin, lle mae pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi eu deall, a'u gwerthfawrogi.
Mae ein Gweithwyr Gofal Plant Preswyl yn gwneud mwy na gweld plant yn achlysurol yn unig. Maent yn darparu gofal 24/7 - gan gerdded gyda phobl ifanc drwy droeon eu bywydau bob dydd, gan eu helpu i wneud synnwyr o'u byd, a'u cefnogi i ffynnu.
Mae'r ddau gartref pwrpasol yng Nghonwy yn cynnig gwasanaeth preswyl sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Rydym yn gweithio fel tîm amlddisgyblaethol i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol a chymdeithasol pobl ifanc - gan eu helpu i fagu gwytnwch a chyflawni'r canlyniadau gorau posib.
Trosolwg o'r swydd:Rydym yn chwilio am Weithwyr Gofal Plant Preswyl profiadol a thosturiol i ymuno â'n tîm, a gweithio'n hyblyg ar draws Bwthyn y Ddôl a Hafan y Wern.
Byddwch yn cefnogi pobl ifanc gydag anghenion cymhleth yn y ddau gartref, gan sicrhau bod cysondeb o ran gofal, ac adeiladu perthnasau cryf a llawn ffydd. Bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar greu amgylchedd â strwythur, a therapiwtig sy'n galluogi plant i deimlo'n ddiogel, fel eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a'u grymuso.
Mae hyn yn fwy na swydd - mae'n gyfle i gael effaith ystyrlon, a pharhaol ar fywyd plentyn.
Yr hyn y byddwch chi'n ei wneud: - Diogelu a hybu lles plant bob amser.
- Sefydlu strwythur, ffiniau, ac arferion dyddiol clir er mwyn cefnogi plant gyda'u haddysg a'u bywyd dyddiol.
- Creu amgylchedd cynnes, cyson ac sy'n meithrin ar gyfer plant diamddiffyn.
- Cyflawni dyletswyddau cysgu i mewn a gweithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys gwasanaeth effro drwy'r nos weithiau.
- Meithrin perthnasoedd proffesiynol gyda phobl ifanc, gan eu helpu i reoli emosiynau ac ymddygiadau anodd.
- Gweithio'n hyblyg yn y ddau gartref preswyl i ddiwallu anghenion y gwasanaeth a phobl ifanc.
- Cefnogi ailuniad plant gyda'u teuluoedd pan fo'n briodol.
Am beth rydym ni'n chwilio? - Unigolyn cyfeillgar, cefnogol a gwydn, gydag ymddygiad positif a brwdfrydedd.
- Dealltwriaeth gadarn o ddiogelu, ymarfer sy'n canolbwyntio ar drawma, a datblygiad plant.
- Gallu meithrin perthnasoedd ystyrlon a phroffesiynol gyda phlant a'u teuluoedd.
- Profiad o weithio gyda phobl ifanc mewn lleoliad therapiwtig, â strwythur.
Pam ymuno â ni: - Gweithio mewn tîm angerddol, cefnogol, ac sy'n canolbwyntio ar y plentyn.
- Bod yn rhan o wasanaeth sydd wedi ymrwymo i helpu plant i ailuno gyda'u teuluoedd lle bo'n bosib.
- Derbyn goruchwyliaeth reolaidd, hyfforddiant cynhwysfawr, a chyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa.
- Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, parhaol i fywydau plant bob dydd.
Gwybodaeth ychwanegol: - Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus dderbyn gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
- Mae hyblygrwydd yn hanfodol, gan y byddwch yn gweithio yn y ddau gartref yn dibynnu ar anghenion y gwasanaeth.
- Darperir hyfforddiant therapiwtig a chefnogaeth barhaus.
Sut i wneud cais:Os ydych chi'n teimlo'n angerddol am roi'r dechrau gorau posib i fywydau plant, ac yn rhywun sy'n arwain gyda chynhesrwydd, gonestrwydd a gwydnwch - hoffwn glywed gennych.
Os nad ydych yn bodloni pob un o'r gofynion, ond rydych yn teimlo y gallwch ddod â rhywbeth arbennig i'r swydd hon, cysylltwch â ni.
Ymunwch â ni ym Mwthyn y Ddôl a Hafan y Wern - a helpwch ni i newid bywydau, un dydd ar y tro.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Jessica Meredydd, Rheolwraig Cofrestredig Preswyl ( jessica.meredydd1@conwy.gov.uk / 07856932618)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.