Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gofal preswyl i blant
Rôl
Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Hafan Y Wern
Ydych chi'n angerddol am newid bywydau? Oes gennych chi'r tosturi a'r ymroddiad i gefnogi plant a phobl ifanc sydd angen gofal tymor hir? Os felly, gallai Hafan Y Wern fod yn lle perffaith i chi.
Rydym yn chwilio am unigolion brwdfrydig, gofalgar ac ymroddedig i ymuno â'n tîm i ddarparu gofal a chefnogaeth eithriadol i blant mewn amgylchedd diogel a meithringar. Mae ein cartref wedi'i gynllunio i gynnig cysur, diogelwch ac ymdeimlad o berthyn - ac mae arnom angen pobl sy'n rhannu ein gweledigaeth.
Beth Rydym yn ei Gynnig • Rhaglen sefydlu a hyfforddi gadarn i'ch paratoi ar gyfer llwyddiant • Datblygiad proffesiynol parhaus a chefnogaeth • Cyfle i weithio mewn lleoliad gwledig prydferth mewn cartref modern pwrpasol • Cyfle i wneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau plant a phobl ifanc • Swydd ar sail shifft gyda Thaliadau Shifft Hael a Lwfans Cysgu
Ein Dull Yn Hafan Y Wern, rydym yn defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar wybodaeth am drawma i sicrhau bod pob plentyn yn teimlo'n cael ei ddeall, ei werthfawrogi a'i gefnogi. Byddwch yn rhan o dîm sy'n rhoi blaenoriaeth i les emosiynol ac yn creu canlyniadau cadarnhaol a pharhaol.
Pwy Rydym yn Chwilio Amdano • Pobl â brwdfrydedd, tosturi a gwydnwch • Unigolion sy'n ymroddedig i wneud gwahaniaeth • Chwaraewyr tîn gallu dod â egni ac empathi i bob rhyngweithio Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i'n Safonau'r Gymraeg. Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Wrth fynd ati i hyrwyddo Cyfle Cyfartal, rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol y swydd yn cael cyfweliad. Byddwn yn darparu cyfleusterau gwaith addas ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr gydag anabledd. Gall pobl anabl ddewis gwneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â ni ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Jessica Meredydd, Rheolwraig Cofrestredig Preswyl ( jessica.meredydd1@conwy.gov.uk / 07856932618)
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn). Angen rhywfaint o gymorth gyda'ch cais? Mae gennym awgrymiadau, canllawiau a gwasanaethau cymorth i'ch helpu chi drwyddo .
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch âr rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch âr Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr