1 x Swydd 37 awr - Adeilad Learning Curve Cwm Rhondda
Mae'r Gwasanaeth Cyfleoedd Oriau Dydd Anableddau Dysgu yn chwilio am unigolion brwd, cryf eu cymhelliant, i ymuno â'r garfan arlwyo yn Adeilad Learning Curve Cwm Rhondda.
Mae gan y gwasanaeth sawl canolfan a phrosiect sy'n rhoi gofal, cymorth a chyfleoedd oriau dydd perthnasol i unigolion sydd ag anableddau dysgu er mwyn cyflawni eu deilliannau.
Ein gweledigaeth ni yw rhoi cymorth i unigolion sydd ag anableddau dysgu i feithrin sgiliau byw bywyd yn annibynnol ym mhob agwedd ar eu bywydau.
Mae unigolion ag Anableddau Dysgu yn chwarae rhan bwysig yn ein Prosiectau Arlwyo.
Mae modd ennill amrywiaeth o sgiliau ymarferol yn yr amgylchedd yma, fel cynllunio bwydlenni (gan gynnwys opsiynau iach), paratoi bwyd, hylendid yn y gegin, gwasanaeth i gwsmeriaid, archebu stoc a thrin arian.
Hefyd, mae modd magu sgiliau a nodweddion ychwanegol drwy'r cyfleoedd sydd ar gael, fel sut mae unigolyn yn cyflwyno'i hun i eraill, rhyngweithio cymdeithasol, datblygu egwyddorion gwaith, ymrwymiad i weithio'n rhan o garfan, bod yn brydlon bob amser a chyfathrebu effeithiol.
Yn ogystal â hyn, bydd darparu hyfforddiant ffurfiol a thystysgrifau cysylltiedig yn cynyddu hyder a hunanwerth unigolion ac, yn eu tro, eu gobeithion cyflogadwy.
Mae cael yr unigolyn sydd ag anabledd dysgu i gymryd rhan, yn ganolog i'r ddarpariaeth.
Byddai profiad blaenorol o gefnogi pobl sydd ag anabledd dysgu mewn modd parchus yn ddelfrydol, ond ddim yn hanfodol. Bydd disgwyl i ymgeiswyr arfer eu profiadau bywyd a'u sgiliau nhw'u hunain yn rhan o'u swyddogaethau, gweithio bob amser yn unol â'r Cod Ymarfer Proffesiynol ac ymrwymo i gynnal y safon uchaf o ofal a chymorth i unigolion.
Bydd gofyn i chi ddefnyddio adnoddau TGCh yn effeithiol, a meddu ar sgiliau ysgrifenedig a llafar ardderchog i gadw cofnodion. Rhaid hefyd cyfathrebu'n effeithiol ag unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth a chyda gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.
Cewch chi sesiwn sefydlu, cyfle i gyflawni cymwysterau Gofal Cymdeithasol, hyfforddiant parhaus a goruchwyliaeth a fydd o gymorth i chi i weithio i'r safonau disgwyliedig gan ganolbwyntio ar y person a chan anelu at ddeilliannau.
Yn ogystal â hynny, bydd gofyn i chi ddilyn a hyrwyddo arferion gwaith diogel, a sicrhau amgylchedd diogel bob amser.
Bydd gofyn i chi hefyd ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy'n gymesur â rôl Gweithiwr Prosiect Cyfleoedd Oriau Dydd.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â Charfan Arlwyo sefydledig yn rhan o'n canolfan graidd yn ardal y gorllewin - Adeilad Learning Curve Cwm Rhondda.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch:
- Gorllewin Rhondda Cynon Taf: Julie Richards, Rheolwr Gwasanaethau Oriau Dydd ar (01443) 436937
- Gorllewin Rhondda Cynon Taf: Judith Enoch, Uwch Swyddog Cyfleoedd Oriau Dydd ar (01443) 436937
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal â'r cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas â'r Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol sydd wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, fe'ch gwahoddir i gyfweliad os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i'r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o'r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy'n cwrdd â'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.