Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Social Services Assistant - Child
Disgrifiad o'r swydd
Gweithiwr Rhianta
Disgrifiad Swydd Wedi'i ariannu tan 31.03.2028
Rydyn ni'n dymuno penodi Gweithiwr Rhianta cryf ei gymhelliad a brwdfrydig i gynorthwyo â gwaith i ddarparu ystod eang o gyfleoedd a rhaglenni cymorth magu plant (0-18 oed). Bydd hyn yn cynnwys darparu cymorth yng nghartrefi'r rhieni eu hunain ledled Rhondda Cynon Taf er mwyn gwella eu gallu i ymateb i anghenion eu plant ynghyd â rhaglenni magu plant wedi'u seilio ar dystiolaeth. Yn yr hinsawdd bresennol, bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd i ddarparu dull hybrid o gefnogi teuluoedd ac mae'n bosibl bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn arloesol yn ei ymagwedd.
Bydd y Gweithiwr Rhianta yn chwarae rhan ganolog wrth rymuso rhieni a chynhalwyr drwy gynnig arweiniad, cymorth ymarferol, a mynediad at adnoddau perthnasol wedi'u teilwra i anghenion unigryw pob teulu. Mae'r swydd hon yn cynnwys gweithio'n agos gyda phlant, pobl ifainc, a'u teuluoedd i hyrwyddo strategaethau rhianta cadarnhaol, gwella perthnasoedd y teulu, a chefnogi lles a datblygiad plant. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfforddus yn ymgysylltu â theuluoedd wyneb yn wyneb ac o bell, gan addasu eu dull yn ôl yr angen i ddiwallu anghenion newidiol y gymuned.
Dylai fod gan ymgeiswyr sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, yn ogystal â'r gallu i weithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm amlddisgyblaethol. Mae profiad o gyflwyno ymyraethau mewn grŵp a chymorth un-i-un yn ddymunol. Mae ymrwymiad i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a theuluoedd yn hanfodol. Bydd hyblygrwydd, creadigrwydd, a gwir angerdd dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol ym mywydau eraill yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr yn y swydd gwerth chweil yma.
Rhaid ichi feddu ar gymhwyster Plant a Phobl Ifainc Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh)) neu'r rhagflaenydd, NVQ Lefel 3 mewn Gofal Plant a Phobl Ifainc neu'r gallu i ennill FfCCh ymhen dwy flynedd o gael aseswr.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Tracy Symon, Wendy Evans neu Lisa Lewis ar (01443) 281435.
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd pob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio’n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Yn rhan o'i amcanion hirdymor mewn perthynas âr Gymraeg a Strategaeth Cynllunio'r Gweithlu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer siaradwyr Cymraeg Lefel 3 ac uwch. Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf hanfodol wedi'u nodi yn y fanyleb person ar gyfer y swydd ac yn siaradwr Cymraeg Lefel 3 ac uwch, bydd gwahoddiad i gyfweliad i chi os byddwch chi'n dewis cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi’r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn, sy’n cwrdd â’r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr