Ydych chi eisiau gyrfa fuddiol ac am wneud gwahaniaeth i Deuluoedd yng Nghonwy?
Mae'r Ganolfan Deulu yn cael effaith anferth ar fywydau'r bobl maent yn eu cefnogi. Gallwch ein helpu ni i wneud gwahaniaeth rŵan hyn.
Rydym i gyd yn ymwybodol nad yw magu teulu yn hawdd, ac mae angen arnom gyngor a chymorth weithiau.
Rydym yn cefnogi teuluoedd gyda'u bywydau bob dydd gan ddarparu cyngor ymarferol a chefnogaeth i ymdopi â phroblemau a magu eu gallu i ymdrin â chyfnodau heriol.
Mae hynny'n golygu gwrando ar deuluoedd, eu deall a'u cefnogi i wneud penderfyniadau a dilyn bywyd iach a hapus.
Os ydych chi'n llwyddiannus, byddwch yn derbyn ymsefydliad llawn ac rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau sy'n cynnwys: * Cyrsiau hyfforddi a chymhwyso AM DDIM * 5 wythnos o wyliau (yn ogystal â hawl Gŵyl y Banc) yn cynyddu i 6.4 wythnos ar ôl gwasanaeth hir, a'r gallu i brynu gwyliau ychwanegol * Gallu symud ymlaen i nifer o swyddi gofal eraill o fewn Gofal Cymdeithasol ac Iechyd * Tâl salwch yn gysylltiedig â Gwasanaeth * Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol * Gostyngiadau ac arian yn ôl mewn siopau stryd fawr leol * Cyfle i brynu cynllun arian iechyd i hawlio tuag at gostau deintyddol, sbectolau, therapi ac ati. *Mynediad am ddim dau ddeg pedwar awr at y rhaglen cymorth i weithwyr am gyngor a chymorth.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
I gael gwybod mwy am ein timau, edrychwch ar ein tudalennau gwe - www.conwy.gov.uk/familylife
Os ydych yn gweithio'n galed ac os oes gennych weledigaeth wirioneddol i helpu eraill a'r hoffech gael swydd werth chweil gyda
Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yna cysylltwch ag un o'r rheolwyr isod am sgwrs anffurfiol a chyfle am gyfweliad:
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Nadine Roberts, Rheolwr Tîm Canolfan Deulu 01492 574701 nadine.roberts@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd. Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Cliciwch yma i ddysgu am y manteision o ymuno â Thîm Conwy.
Dysgwch fwy am ein proses recriwtio drwy fynd i'n Tudalen Proses Recriwtio.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr