Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau canolfan breswyl i deuluoedd
Rôl
Gweithiwr Cymorth Mewn Canolfan Breswyl i Deuluoedd
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dymuno recriwtio Gweithwyr Therapiwtig i Deuluoedd, Therapyddion Galwedigaethol neu Nyrsys Seiciatrig Cymunedol i fod yn rhan o'n tîm Cryfhau Teuluoedd.
Mae hwn yn dîm sefydledig sydd wedi ymrwymo i ddarparu ymyraethau yn seiliedig ar dystiolaeth i deuluoedd a phobl ifanc mewn argyfwng. Mae'n gyfle i weithio'n ddwys gyda theuluoedd yn eu cefnogi i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda phobl ifanc a'u teuluoedd i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu clywed a sicrhau bod pobl ifanc a'u teuluoedd yn adnabod eu cryfderau a'n bod yn eu cefnogi i adeiladu ar eu cryfderau.
Bydd y Gweithwyr Therapiwtig i Deuluoedd yn rhan o dîm amlddisgyblaeth, gan weithio'n agos gyda Gweithwyr Cymdeithasol o'r tîm amddiffyn plant Conwy, Gweithwyr Canolfan i Deuluoedd a CAMHS gan ddarparu ystod o ymyriadau Therapiwtig i wella eu sefyllfaoedd.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm sy'n ffocysu ar deuluoedd ac sy'n credu bod teuluoedd a phobl ifanc gyda chryfderau i newid eu bywydau. Os ydych yn credu bod gennych y sgiliau, personoliaeth a'r ymrwymiad i weithio'r ffordd hyn, dewch i ymuno â ni.
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen datgeliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr