Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethau Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella, Bae Colwyn
Ydych chi'n angerddol am wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau plant a theuluoedd? Oes gennych chi'r sgiliau i asesu risgiau, darparu ymyrraeth gynnar, a gweithio'n effeithiol mewn amgylchedd amlasiantaeth prysur? Os felly, mae arnom ni eisiau clywed gennych.
Rydym yn chwilio am Weithiwr Ymyriadau Teuluol ymroddedig i ymuno â thîm deinamig y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol. Mae tîm y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddiogelu plant a phobl ifanc drwy ddod â gweithwyr proffesiynol o ystod o wasanaethau ynghyd i rannu gwybodaeth, asesu risg, a sicrhau ymatebion amserol a phriodol i bryderon diogelu.
Fel Gweithiwr Ymyriadau Teuluol, byddwch yn:
• Cefnogi teuluoedd ar y cyfle cynharaf i atal cynnydd mewn angen.
• Arwain ymyraethau byrdymor, wedi'u targedu, i wella gwytnwch a chanlyniadau teuluol.
• Gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol ym maes addysg, iechyd, heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol i asesu risgiau a diogelu.
• Ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd i ddeall eu hanghenion, eu cryfderau a'u risgiau.
• Helpu i lunio cynlluniau gweithredu a chyfrannu at wneud penderfyniadau o fewn lleoliad amlasiantaeth.
Am beth rydym ni'n chwilio?
Yr Ymgeisydd Delfrydol:
• Yn angerddol am gymorth cynnar a diogelu plant.
• Yn brofiadol o ran gweithio gyda phlant a theuluoedd mewn rôl gefnogol neu ymyrraeth.
• Yn wybodus am ddatblygiad plant, ffactorau risg, a ffactorau amddiffynnol.
• Yn gyfathrebwr cryf a chwaraewr tîm sy'n ffynnu mewn amgylchedd prysur, amlasiantaeth.
• Yn wydn, yn empathig, ac yn gallu rheoli sefyllfaoedd teuluol cymhleth.
Yr hyn a gynigiwn:
• Diwylliant tîm cefnogol a chynhwysol
• Cyfleoedd datblygiad proffesiynol a hyfforddiant parhaus
• Gwyliau blynyddol hael a chynllun pensiwn
• Cyfle i wneud effaith wirioneddol a pharhaol yn y gymuned
Oherwydd natur y gwaith, bydd angen cael gwiriad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Cathryn Taylor Rheolwr Adain ( Cathryn.Taylor@Conwy.gov.uk / 01492 575264 )
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn desirable ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr