Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrecsam
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Cymorth ym Maes Gwaith Cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Mae nifer o batrymau gwaith ar gael
G05 £25,584 - £26,409 y flwyddyn/ pro rata
Bydd ein swyddi Gweithwyr Cefnogi newydd yn gweithio ar draws timau a sefydliadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol i gefnogi pobl ledled Wrecsam. Bydd gan rai yn y swyddi hyn gyfle unigryw i fanteisio ar raglenni cynefino a datblygu o fewn y gwasanaeth iechyd yn ogystal ag adran gofal cymdeithasol yr awdurdod lleol ac mae'n rhan o'n buddsoddiad a'n cynlluniau hirdymor i ehangu ein gwasanaeth gofal cymdeithasol a buddsoddi yn, a datblygu ein gweithwyr.
Croesawir ceisiadau hefyd ar gyfer gweithio dros y penwythnos yn unig.
Mae gofal cymdeithasol yn llawer mwy na gofal personol. Mae'n amrywiol iawn ac rydym eisiau gweithlu sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl rydym yn eu cefnogi a'r hyn sy'n bwysig iddynt.
Rydym yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr â'r cymwysterau priodol sydd ag anableddau ac rydym wedi ymrwymo i Gyfleoedd Cyfartal.
Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn gweithio i gynyddu nifer y gweithwyr sy'n siarad Cymraeg er mwyn bodloni anghenion y gymuned a wasanaethir, ac felly byddwn yn rhoi croeso arbennig i geisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu bod yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.