Gwasanaeth Cymorth x 7 G05 - £25,584 - £26,409 Mae cyfle cyffrous wedi codi yn Byw â Chymorth i bobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yn ein cymuned. Rydym yn helpu unigolion sydd ag anghenion cymhleth uwch gan gynnwys anableddau dysgu i gynnal eu tenantiaethau a byw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Rydym yn helpu pobl i deimlo'n rhan o'u cymuned; i wneud y gorau o'u lles a chyflawni eu nodau personol.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr deinamig, hunan-gymhellol sydd ag empathi a pharch. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gwerthfawrogi'r gwahaniaethau mewn eraill ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Byddant yn gweithio'n dda fel rhan o dîm ac ar eu menter eu hunain; ac yn gallu dilyn cynlluniau a chwalu rhwystrau i sicrhau bod canlyniadau'n cael eu cyflawni. Byddant yn hyblyg yn eu dull ac yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Byddwch yn gweithio ar y safle yn un o'r tai byw â chymorth ac yn gymwys i NVQ lefel 2 o leiaf, neu â'r gallu a'r ymrwymiad i gyflawni'r cymhwyster hwn o fewn cyfnod penodol o amser.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Meddu ar yr angerdd a'r ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â chydweithwyr eraill ac i sicrhau bod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar y person, yn ddibynadwy ac yn urddasol.
- Bodloni gofynion llawn y rôl fel y nodwyd yn y Disgrifiad Swydd (ar gael ar gais)
Byddwch yn cyflawni cwrs sefydlu a hyfforddiant cynhwysfawr i'ch
cefnogi yn eich rôl.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr: Job Desc... (.doc) (117kb) , Swydd-dd... (.doc) (16kb)